Canmol timau Haematoleg ac Ymchwil Ysbyty Glan Clwyd am waith ar Lewcemia Myeloid Acíwt
7 Medi
Mae'r timau Haematoleg ac Ymchwil yn Ysbyty Glan Clwyd, Y Rhyl, wedi cael eu henwi'n ail mewn gwobr genedlaethol fawreddog a oedd yn cydnabod eu hymdrechion ym maes ymchwil lewcemia myeloid acíwt (AML).
Cafodd Ysbyty Glan Clwyd ei gydnabod yng Ngwobr Cyflawniad Tîm Treialon Lewcemia Acíwt Myeloid Cenedlaethol y Flwyddyn 2023, am ei ymrwymiad uchel a’o ran mewn astudiaethau AML o bwys ledled y DU, wrth weithio ar yr un pryd ar astudiaethau haemato-oncoleg eraill megis treialon myeloma a lymffoma.
Mae dros 80 o ysbytai yn y DU yn cynnig triniaeth ar gyfer AML. Er bod nifer o ysbytai a chanolfannau mwy wedi gwneud cais am y wobr, Ysbyty Glan Clwyd oedd yr unig ysbyty ardal i gael ei dderbyn.
Gwnaeth y meini prawf beirniadu ystyried cyfranogiad y timau i dreialon AML y Sefydliad Ymchwil Canser Cenedlaethol (NCRI), Rhaglen Cyflymu Treialon (TAP), ac ymchwil a noddir gan y diwydiant, ynghyd â’u rhan yn natblygiad treial AML y DU yn y dyfodol, recriwtio cleifion, ymgysylltu lleol â grwpiau cleifion, rhyngweithio cymunedol a mentrau a arweinir gan y tîm i wella'r modd y darperir treialon AML a Haemato-oncolgy.
Dywedodd y panel dyfarnu fod y timau wedi dangos strategaethau arloesol i wella'r broses o gyflawni treialon AML a Haemato-oncoleg ac wedi cyflawni recriwtio treialon rhagorol.
Dywedodd Victoria Garvey, Nyrs Arbenigol Ymchwil Glinigol yn Ysbyty Glan Clwyd: "Hoffwn gydnabod y timau ymchwil yn Ysbyty Glan Clwyd a'r tîm haematoleg ehangach. Heb eu hymrwymiad nhw, ni fyddai'n bosibl cynnal y treialon hyn."
Yn y llun (o'r chwith): Tori Garvey, Nyrs Arbenigol Ymchwil Glinigol; Dr Durgadevi Moratuwagama, Haematolegydd Ymgynghorol a Chyd-ymchwilydd ar gyfer treialon Haematoleg; Dr Earnest Heartin, Haematolegydd Ymgynghorol a Phrif Ymchwilydd y treialon Haematoleg; Zuzana Probier, Nyrs Arbenigol Ymchwil Glinigol