Sarah Townsend

Sarah Townsend

Pennaeth Ymchwil a Datblygu

Fel Pennaeth Ymchwil a Datblygu a Chynrychiolydd Noddwyr yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, mae Sarah yn rheoli cyflenwi portffolio ymchwil eang ac amrywiol o astudiaethau cenedlaethol a rhyngwladol.

Gyda dros ugain mlynedd o brofiad mewn ymchwil glinigol a gofal iechyd, sefydlodd Sarah swyddfa ymchwil a datblygu’r ymddiriedolaeth yn 2004. Mae’n cymryd rhan flaenllaw yn y gwaith o gyflawni blaenoriaethau strategol yr ymddiriedolaeth mewn ymchwil glinigol canser arloesol ac arbenigol iawn ac astudiaethau eraill o ansawdd uchel. Mae Sarah yn defnyddio ei harbenigedd helaeth ym meysydd strategaeth, polisi, llywodraethu a chyllido ymchwil a datblygu i sicrhau’r seilwaith cyflenwi ymchwil gorau posibl i’r ymddiriedolaeth.

Mae Sarah yn cynrychioli’r ymddiriedolaeth / Cymru ar grwpiau cenedlaethol ac yn arwain ymgysylltiad yr ymddiriedolaeth o ran cydweithio ar ymchwil â sefydliadau addysg uwch a chwmnïau fferyllol.  Mae cydweithio llwyddiannus wedi arwain at yr ymddiriedolaeth yn noddi astudiaethau canser rhyngwladol a threialon eraill effaith uchel cyfnod cynnar/hwyr a arweinir gan ymchwilydd. Yn ychwanegol, mae’r cydweithio hwn wedi galluogi’r ymddiriedolaeth i weithredu fel cynrychiolydd cyfreithiol y DU i bartneriaid byd-eang.

Sefydliad

Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre

Cysylltwch â Sarah

E-bost

Ffôn: 029 2061 5888 ext. 4841