Triniaeth wrthfiotig ac achosion gwaedu mawr ymhlith defnyddwyr gwrthgeulyddion geneuol
Crynodeb diwedd y prosiect
Prif Negeseuon
Y prif wrthgeulyddion geneuol ("meddyginiaeth teneuo gwaed") a ddefnyddir yn y DU yw warfarin a grŵp o gyffuriau a elwir yn Wrthgeulyddion Geneuol Uniongyrchol (sef ‘Direct Oral Anticoagulants’ neu DOACs). Eu prif ddefnydd yw atal clotiau gwaed a strôc mewn pobl sydd â rhythm calon afreolaidd. Gwaedu yw cymhlethdod mwyaf difrifol defnyddio meddyginiaeth gwrthgeulo. Cydnabyddir yn dda y gall pobl sydd â heintiau difrifol, fel sepsis, brofi problemau gyda'u llwybrau ceulo gwaed, gyda gwaedu dilynol. Fodd bynnag, nid yw'n glir a allai problemau tebyg godi gyda heintiau llai difrifol, mwy cyffredin, sy'n cael eu trin yn y gymuned, yn enwedig ymhlith pobl sy'n defnyddio gwrthgeulyddion geneuol ac felly'n fwy agored i waedu.
Yn yr ymchwil hwn, ein nod oedd pennu’r risg o waedu ymhlith defnyddwyr gwrthgeulyddion geneuol a ddaeth i Feddygon Teulu â symptomau haint y llwybr anadlol a gafwyd yn y gymuned.
Ein prif ganfyddiadau oedd:
- Mae pobl sy'n defnyddio gwrthgeulyddion geneuol fwy na dwywaith yn fwy tebygol o brofi gwaedu yn ystod y cyfnod o bythefnos yn dilyn ymgynghoriad ar haint y llwybr anadlol, nag yn ystod adegau heb haint y llwybr anadlol.
- Roedd y mathau o waedu a brofwyd yn cynnwys achosion gwaedu mawr, fel gwaedlif yr ymennydd a'r stumog a oedd yn gofyn am fynediad i'r ysbyty, ac achosion gwaedu llai fel gwaedu trwyn, gwaed wrth beswch, a gwaed yn yr wrin.
- Pan wnaethom gymharu pobl sydd â haint y llwybr anadlol a gafodd gwrthfiotigau eu presgripsiynu ar unwaith i'r rhai nad oeddent wedi cael presgripsiwn gwrthfiotigau, gwelsom fod gan y rhai a gafodd gwrthfiotigau eu presgripsiynu ar unwaith risg 40% yn is o achos gwaedu mawr a risg is o 22% o achos gwaedu llai, o'i gymharu â'r rhai nad oeddent wedi cael gwrthfiotigau eu presgripsiynu.
- Mae gan ein gwaith oblygiadau o ran sut mae cleifion a chlinigwyr yn rheoli’r defnydd o wrthgeulyddion geneuol yn ystod haint acíwt ac mae angen ymchwiliad pellach i ddeall yn llawn y risgiau posibl a sut y gellid eu lliniaru. Un mater allweddol yw deall pam a sut y gall gwrthfiotigau leihau'r risg o waedu ac a allai trothwy is ar gyfer defnydd gwrthfiotig ar gyfer haint y llwybr anadlol yn y boblogaeth hon fod yn fuddiol. Fodd bynnag, mae angen pwyso a mesur hyn yn erbyn y niwed unigol a chymdeithasol ehangach sy'n gysylltiedig â gorddefnyddio gwrthfiotigau a datblygiad ymwrthedd gwrthfiotigau.