Trosglwyddiad COVID-19 mewn lleoliadau sy’n lled awyr agored neu’n rhannol dan do
Beth ydy’r risg o ddal COVID-19 mewn lleoliadau sy’n lled awyr agored o’u cymharu â lleoliadau dan do neu awyr agored: crynodeb cyflym o dystiolaeth?
Bu’r adolygiad hwn yn edrych am dystiolaeth o’r risg o ddal COVID-19 mewn lleoliadau sy’n lled awyr agored, fel gasebo sy’n fath o babell gydag ochrau agored. Nid oedd unrhyw dystiolaeth ar gael ar y pwnc hwn ar adeg yr adolygiad. Nid oedd yna unrhyw dystiolaeth ar gael ychwaith o risg dal feirysau anadlol eraill mewn lleoliadau sy’n lled awyr agored.
Penderfynwyd felly peidio â threulio mwy o amser ar yr adolygiad hwn.
Dyddiad:
Cyfeirnod:
RES00001
RES00001