Rhiannon Tudor Edwards

Yr Athro Rhiannon Tudor Edwards

Cyd-gyfarwyddwr, Gwasanaeth Cymorth Economeg Iechyd Cymru

Mae Rhiannon Tudor Edwards BSC. Econ, M.A., D.Phil., Hon. MFPH yn Athro Economeg Iechyd ac yn Gyfarwyddwr sy’n un o slfaenwyr ymchwil economeg iechyd ym Mhrifysgol Bangor, ac yn Gyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau. Mae hefyd yn Gyfarwyddwr Gwasanaeth Cymorth Economeg Iechyd Cymru. Mae gan Rhiannon wyth o fyfyrwyr doethuriaeth ac mae’n addysgu Economeg Iechyd ac Economeg Iechyd Cyhoeddus ar lefel ôl-raddedig. Mae Rhiannon yn gweithio’n agos ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ac roedd yn arholwr Cyfadran Iechyd y Cyhoedd y DU am dair blynedd. Mae Rhiannon wedi’i chofrestru’n ddall, mae wedi bod yn berchen ar gi tywys ers 15 mlynedd ac mae ganddi fwy a mwy o ddiddordeb mewn cymhwyso economeg iechyd i dechnolegau/gwasanaethau i gefnogi pobl sy’n byw gydag anabledd. Aa hyn o bryd, mae’n rhan o gydweithrediaeth ryngwladol sy’n edrych ar fodelau gwasanaeth ar gyfer golwg gwan. Graddiodd yr Athro Tudor-Edwards â graddau o Brifysgol Cymru, Prfysgol Aberystwyth a Phrifysgol Calgary, Canada. Cwblhaodd ei thraethawd doethuriaeth ym Mhrifysgol Caerefrog, ar restrau cleifion y GIG fel mecanwaith dogni mewn gofal iechyd cyhoeddus.

Sefydliad

Gwasanaeth Cymorth Economeg Iechyd Cymru

Cysylltwch â Rhiannon

E-bost

Ffôn: 01248 382153