Uwch Arweinydd Ymchwil yn darganfod posibilrwydd o therapi canser “cyffredinol”
26 Ionawr
Mae ymchwil - sydd wedi’i rhan-ariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – wedi darganfod T-gell ladd o fath newydd sy’n cynnig gobaith o therapi canser sy’n addas ar gyfer pob canser.
Therapïau T-gelloedd ar gyfer canser – lle tynnir celloedd imiwn, eu haddasu a’u dychwelyd i waed y claf i geisio dinistrio celloedd canser – yw’r model diweddaraf o driniaethau canser.
Mae’r therapi sy’n cael ei ddefnyddio fwyaf eang, o’r enw CAR-T, yn bersonol i bob claf, ond dim ond rhyw ychydig o fathau o ganserau y mae’n eu targedu ac nid yw wedi bod yn llwyddiannus ar gyfer tiwmorau solet, sef y ffurf ar y mwyafrif helaeth o ganserau.
Mae Prifysgol Caerdydd nawr wedi darganfod T-gelloedd sydd â derbynnydd T-gelloedd (TCR) o fath newydd sy’n adnabod ac yn lladd y mwyafrif o fathau o ganser dynol, ac yn anwybyddu celloedd iach ar yr un pryd.
Mae’r TCR hwn yn adnabod moleciwl (MR1) sy’n bresennol ar arwyneb amrywiaeth eang o gelloedd canser yn ogystal â llawer o gelloedd normal y corff ond, yn rhyfeddol ddigon, mae’n gallu gwahaniaethu rhwng celloedd iach a rhai canseraidd, ac yn lladd y celloedd canseraidd yn unig.
Yn ôl yr Athro Andrew Sewell, Uwch Arweinydd Ymchwil, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a chyd-awdur yr astudiaeth, roedd hi’n “hynod anarferol” darganfod TCR â sbesiffigedd canser mor eang, ac roedd hyn yn cynnig y posibilrwydd o therapi canser “cyffredinol”.
“Rydyn ni’n gobeithio y bydd y TCR newydd hwn o bosibl yn cynnig llwybr newydd i ni dargedu a dinistrio amrywiaeth eang o ganserau ym mhob unigolyn,” meddai.
“Dim ond mewn ychydig iawn o gleifion ag ychydig iawn o ganserau rydyn ni’n gallu defnyddio therapïau seiliedig ar TCR ar hyn o bryd.”
“Mae targedu canser trwy T-gelloedd MR1-cyfyngedig yn ffordd newydd gyffrous o estyn y ffiniau – mae’n cynnig y posibilrwydd o driniaeth canser sy’n addas ar gyfer pob canser; T-gell o un fath a allai ddinistrio llawer o wahanol ganserau ar draws y boblogaeth.
“Cyn hyn, doedd neb yn credu y gallai hyn fod yn bosibl.”
Yn y labordy, dangoswyd bod T-gelloedd sydd â’r TCR newydd yn lladd celloedd canser yr ysgyfaint, y croen, y gwaed, y coluddyn, y fron, yr asgwrn, y prostad, yr ofari, yr aren a cheg y groth.
Mae rhagor o brofion diogelwch yn mynd rhagddyn nhw, ond mae’r ymchwilwyr yn gobeithio treialu’r dull newydd hwn o weithredu mewn cleifion tuag at ddiwedd y flwyddyn.
Meddai’r Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
“Rydyn ni’n ariannu ymchwil sy’n anelu at wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl. Mae’r astudiaeth hon yn ddatblygiad sylweddol yn y frwydr yn erbyn canser, ac mae ganddi’r potensial i drawsnewid triniaeth miloedd o gleifion.”
Yn ôl yr Athro Sewell, un agwedd hanfodol ar y profion diogelwch sy’n mynd rhagddyn nhw oedd sicrhau mai dim ond celloedd canser y mae T-gelloedd sydd wedi’u haddasu â’r TCR newydd yn eu hadnabod.
“Mae yna ddigonedd o rwystrau i’w goresgyn, ond os y bydd y profion hyn yn llwyddiannus, yna mi fyddwn i’n gobeithio y byddai’n bosibl defnyddio’r driniaeth newydd hon mewn cleifion mewn rhyw ychydig o flynyddoedd,” meddai.
Mae rhagor o wybodaeth am sut y mae’r derbynnydd T-gelloedd (TCR) newydd yn gweithio i’w gweld ar wefan Prifysgol Caerdydd.
Gallwch chi ddarllen yr astudiaeth lawn sydd wedi’i chyhoeddi yn nghyfnodolyn Nature Immunology.