UK Prevention Research Partnership logo

Uwch ymchwilwyr yng Nghymru’n cyfrannu at fenter o bwys

29 Gorffennaf

Bydd ymchwilwyr yng Nghymru’n cydweithio ar amrywiaeth o brosiectau arloesol fel rhan o fuddsoddiad ymchwil cyntaf erioed Partneriaeth Ymchwil Atal y DU (UKPRP) i ddeall a dylanwadu ar y ffactorau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sy’n effeithio ar ein hiechyd.

Mae UKPRP, sy’n cynnwys amrywiaeth o gynghorau ymchwil, elusennau ac arianwyr llywodraeth gan gynnwys Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, wedi clustnodi £25 miliwn ar gyfer wyth prosiect a fydd yn mynd i’r afael â llunio darlun mwy eglur o’r ffactorau sydd y tu cefn i atal clefydau anhrosglwyddadwy.

Clefydau nad oes modd eu trosglwyddo o’r naill berson i’r llall, fel clefyd y galon, gordewdra, iechyd meddwl gwael, canser a diabetes, yw clefydau anhrosglwyddadwy. Y rhain sy’n cyfrif am y mwyafrif helaeth o glefydau yn y DU, gan fod yn gyfrifol am ryw 89 y cant o bob marwolaeth.

Trwy gydweithredu ledled y DU, nod dyfarniadau UKPRP yw datblygu, profi a choethi dulliau newydd, ymarferol a chost-effeithiol o fynd ati i atal clefydau anhrosglwyddadwy a fydd, yn ei dro, yn helpu i leihau anghydraddoldebau iechyd.

Dyfarnwyd dau wahanol fath o grant: y dyfarniadau Consortia, sy’n ariannu rhaglenni ymchwil rhyngddisgyblaethol mawr am bum mlynedd; a’r dyfarniadau Rhwydweithiau, â’r nod o ddatblygu cymunedau newydd o ymchwilwyr trwy gyllid am bedair blynedd.

Mae’r dyfarniadau’n cwmpasu amrywiaeth o faterion, gan gynnwys; ymchwilio i benderfynyddion iechyd masnachol (h.y. ffyrdd cynhyrchwyr masnachol tybaco, alcohol a bwyd o fynd ati i hybu cynhyrchion); systemau bwyd ysgol; gwella cyfleoedd bywyd i blant mewn ardaloedd amddifad yn y DU; sicrhau bod ystyriaethau iechyd yn rhan annatod o waith cynllunio trefol a phrosesau penderfynu; a datblygu dulliau economaidd newydd i feirniadu effeithiolrwydd a chostau a buddion mewn meysydd polisi fel twf economaidd a thai.

Bydd pump o’r wyth prosiect yn cynnwys ymchwilwyr o ledled prifysgolion a sefydliadau iechyd Cymru.

Ymchwilwyr yng Nghymru y mae dyfarniad Consortia yn eu hariannu

  • Bydd Dr Graham Moore, Prifysgol Caerdydd a Dr Julie Bishop, Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru’n cydweithio â’r Athro Linda Bauld, Prifysgol Caeredin fel rhan o Gonsortiwm SPECTRUM (Siapio polisïau iechyd cyhoeddus i leihau anghydraddoldebau a niwed).
  • Bydd yr Athro Annie Pye, Prifysgol Caerdydd yn cyfrannu at TRU3D: Mynd i’r Afael â’r Gwir Achosion i Fyny’r Afon o Ddatblygiad Trefol Afiach, dan arweiniad yr Athro Matthew Hickman, Prifysgol Bryste.
  • Bydd yr Athro Mark Bellis, Iechyd Cyhoeddus Cymru’n cyfrannu at gonsortiwm SIPHER – Gwyddor Systemau Mewn Ymchwil Economaidd Iechyd Cyhoeddus, dan arweiniad yr Athro Pera Meier o Brifysgol Sheffield.

Ymchwilwyr yng Nghymru y mae dyfarniadau Rhwydweithiau yn eu hariannu

  • Mae’r Athro Sinead Brophy, Prifysgol Abertawe’n gydweithredwr o fewn MatCH-Net, y Rhwydwaith Iechyd Mamau a Phlant, dan arweiniad Ruth Dundas, Prifysgol Glasgow.
  • Mae’r Athro Kevin Morgan, Prifysgol Caerdydd, a’r Athro Sinead Brophy yn rhan o rwydwaith GENIUS: Cynhyrchu Maethiad Rhagorol yn Ysgolion y DU, dan arweiniad yr Athro Jayne Woodside, Prifysgol Queen’s Belfast.

Meddai’r Athro y Fonesig Sally Macintyre, Cadeirydd Bwrdd Cynghori Gwyddonol a Phanel Grŵp Adolygu Arbenigol UKPRP:

“Bydd y prosiectau hyn sydd newydd eu hariannu, ac sydd wedi’u cynllunio’n dda, yn helpu i ddatgelu’r ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol sy’n effeithio ar ein hiechyd.

“Trwy fuddsoddi yn y timau rhyngddisgyblaethol hyn a manteisio ar amrywiaeth eang o wybodaeth ac arbenigedd, mae UKPRP yn cefnogi gwaith a fydd o fudd go iawn i’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau ac i’r cyhoedd ehangach fel ei gilydd.

“Mae clefydau anhrosglwyddadwy’n gosod baich anferth arnon ni i gyd ac rydyn ni’n gobeithio y bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i ddarparu atebion ymarferol a sylweddol a fydd yn effeithio’n bositif ar fywydau ac iechyd pobl.”

Meddai Michael Bowdery, Cyd-Gyfarwyddwr Interim Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

“Rydyn ni wrth ein boddau ein bod ni’n rhan o fenter mor arloesol, ac un sydd â chymaint o botensial amlwg i atal clefyd a chyfrannu at iechyd a llesiant.

“Mae graddau ac ehangder y dyfarniadau grant yn dangos beth y gellir ei gyflawni pan mae arianwyr ymchwil yn cydweithio er da.

“Mae’n galonogol hefyd gweld ymchwilwyr o Gymru’n chwarae eu rhan, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld sut y bydd y rhaglenni ymchwil a gweithgareddau’r rhwydwaith yn datblygu.”

Caiff ail alwad ariannu UKPRP am gynigion ar gyfer consortia a rhwydweithiau ei lansio yn nhymor yr hydref, 2019. I gael rhagor o wybodaeth am yr UKPRP, ac i gael y wybodaeth lawn am y Consortia a’r Rhwydweithiau sy’n cael eu hariannu, ewch i Wefan UKPRP.

Mae’r Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC) yn gweinyddu’r fenter ar ran partneriaid ariannu UKPRP. Dyma partneriaid UKPRP:

Cynghorau Ymchwil UKRI: Y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC), y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC), y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) a Chyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC)

Elusennau: Sefydliad Prydeinig y Galon, Ymchwil Canser y DU, Wellcome, y Sefydliad Iechyd

Llywodraeth: Swyddfa Prif Wyddonydd Llywodraeth yr Alban, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd (NIHR), a’r Asiantaeth Iechyd Cyhoeddus (Gogledd Iwerddon)