Professor Marcela Votruba
Specialty Lead for Ophthalmology
Mae gan yr Athro Marcela Vortuba gymwysterau clinigol ac mae’n Athro Offthalmoleg sy’n glinigol weithredol yn Ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Golwg Prifysgol Caerdydd ac yn Offthalmolegydd Ymgynghorol Anrhydeddus yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.
Dyfarnwyd Cadair Bersonol i Marcela ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2011, a hithau wedi bod yn uwch ddarlithydd yno ers 2003. Daeth i Gaerdydd o Goleg Prifysgol Llundain gyda Chymrodoriaeth Gwyddonydd Clinigol oddi wrth y Cyngor Ymchwil Feddygol, i ariannu ei hun a chydymaith ymchwil am bedair blynedd. Cyn hyn, roedd yn Ymgynghorydd mewn Retina Meddygol, yn Ysbyty Llygaid Moorfields, Llundain yn 2003 ac yn Ymchwilydd Gwadd yn y Sefydliad Llygaid Cenedlaethol, Sefydliadau Iechyd Cenedlaethol, UDA, yn 2002. Roedd Marcela yn gymrawd i’r Athro Paul Sieving yn 2002- yn gyntaf ym Michigan, Ann Arbor yng Nghanolfan Llygaid Kellogg ac yna yn y Sefydliad Llygaid Cenedlaethol, Sefydliadau Iechyd Cenedlaethol, Bethesda. Cwblhaodd ei hyfforddiant arbenigedd ac uwch arbenigedd mewn offthalmoleg a geneteg offthalmig yn 2000 a dyfarnwyd ei thystysgrif iddi ar ôl iddi gwblhau ei hyfforddiant. Roedd yn gymrawd clinigol dan gyfarwyddyd yr Athro Tony Moore a’r Athro Alan Bird a chafodd ei hyfforddi mewn retina meddygol a geneteg mewn canolfan o’r radd flaenaf. Dyfarnwyd ei chymrodoriaeth o Goleg Brenhinol yr Offthalmolegwyr (FRCOphth) ym 1992. Bu’n astudio’r Gwyddorau Ffisiolegol yn Queen’s College, Rhydychen (BA, MA Anrh. 2:1, 1984/ 1987), lle y dyfarnwyd Ysgoloriaeth Agored iddi ym 1981. Roedd ei gradd feddygol yn Green College, Rhydychen (BM BCh, 1987).
In the news:
Support and Delivery Event 2023 poster gallery (March 2023)
Health and Care Research Wales invests in leaders across Wales to shape the research of the future (April 2022)
Contact Marcela