Felicity Waters
Pennaeth Cyfathrebu, Ymgysylltu a Chynnwys, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Ymunodd Felicity ag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar ôl gweithio fel Pennaeth Cyfathrebu am 5 mlynedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a chyn hynny fel Pennaeth y Wasg ac Ymgyrchoedd i ASH Cymru.
Fel cyn newyddiadurwr, cafodd Felicity ei hyfforddi gan Trinity Mirror cyn ymuno â’r Western Mail fel Gohebydd Iechyd. Yn ddiweddarach, gweithiodd i adran ffeithiol ITV Cymru ac ar gyfres materion cyfoes flaenllaw BBC Cymru sef Week in Week Out.
Bu Felicity hefyd yn darparu gwasanaeth cyfryngau, polisïau a materion cyhoeddus pwrpasol i sefydliadau ledled y DU gan gynnwys Cymdeithas Feddygol Prydain, Cymorth Canser Macmillan, Oxfam Cymru, Voices from Care a’r Sefydliad Rheoli Gofal Iechyd.
Mae hefyd yn aelod o Fwrdd Ymddiriedolwyr Llamau, yr elusen digartrefedd ar gyfer pobl ifanc.
Yn y newyddion:
Diwrnod Cefnogi a Chyflenwi 2021 (Ebrill 2021)
Sefydliad
Gwasanaeth Cefnogi a Chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Cysylltwch â Felicity
Ffôn: 02920 230457