a_person_typing_on_a_laptop

Weminar Darganfod Eich Rôl 2.0 yn hybu cynnwys y cyhoedd mewn ymchwil yng Nghymru

19 Mawrth

Cynhaliodd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru weminar ar 19 Chwefror a oedd yn garreg filltir allweddol yn Darganfod Eich Rôl 2.0, ein cynllun pedair blynedd i wella cynnwys y cyhoedd mewn ymchwil yng Nghymru. 

Nod Darganfod Eich Rôl 2.0 yw chwalu rhwystrau a chreu cyfleoedd mwy cynhwysol i bobl gyfrannu at ymchwil iechyd a gofal yng Nghymru. 

Daeth cyfanswm o 53 o bobl, gan gynnwys ymchwilwyr, cyfranwyr cyhoeddus a sefydliadau partner, i'r sesiwn i glywed mewnwelediadau o gam datblygu'r cynllun. 

Roedd hefyd yn gyfle i'r rhai a oedd yn bresennol gydweithio â’i gilydd a rhoi adborth ar y cynllun. 

Pennaeth Ymgysylltu, Llywodraethu a Gwybodeg Ymchwil Llywodraeth Cymru, Alex Newberry wnaeth lywyddu’r weminar gyda Peter Gee ac Emma Langley o Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn hwyluso.

Beth oedd yr uchafbwyntiau a chamau gweithredu allweddol o’r weminar?
  1. Adolygu Dogfen Darganfod Eich Rôl
  • Symleiddio iaith i'w gwneud yn fwy hygyrch i gynulleidfa ehangach.
  • Amlinellu ein hamcanion a'n camau gweithredu yn glir.
  1. Ychwanegu camau gweithredu eilaidd newydd ar gyfer rhwystrau talu a gweinyddol
  • Ychwanegu gwybodaeth am daliadau fel cam gweithredu eilaidd yn seiliedig ar adborth y weminar.
  • Datblygu dull mwy penodol o ymgysylltu â'r brifysgol, gan weithio gydag arweinwyr cyllid drwy'r gynghrair.
  1. Ymgorffori Adborth wrth Gynllunio Gweithgareddau
  • Byddwn yn mireinio ein gweithgareddau ym mhob maes thema/ffocws, gan gynnwys:
  • Datblygu strategaethau ymgysylltu mwy cynhwysol, yn enwedig ar gyfer grwpiau cymunedol sy’n cael eu tanwasanaethu.
  • Gwella cyfleoedd hyfforddi a mentora ar gyfer cyfranwyr cyhoeddus ac ymchwilwyr.
  • Gwella sianeli cyfathrebu i godi ymwybyddiaeth o gyfleoedd ymchwil.
  • Sicrhau bod cynnwys y cyhoedd yn arwain at effaith ystyrlon ar ymchwil a pholisi
  1. Sefydlu Grŵp Goruchwylio’r Prosiect
  • Bydd grŵp yn cefnogi ac yn mesur gwerthusiad darganfod eich rôl, gan nodi canlyniadau

Dywedodd Uwch Reolwr Cynnwys y Cyhoedd, Peter Gee: "Hoffem ni ddiolch i bawb am ddod i'r weminar a rhoi eu hadborth i ni ar y cynllun Darganfod Eich Rôl 2.0 cydweithredol.

"Roedd sicrhau bod yr hyn yr ydyn ni'n ei wneud yn dryloyw ac wedi'i lywio gan y cyhoedd ar bob cam yn hollbwysig i ni.

"Gwnaeth y weminar ategu rôl hanfodol cydweithio wrth lunio Darganfod Eich Rôl 2.0 a byddem ni’n annog ymgysylltu parhaus i sicrhau bod cynnwys y cyhoedd yn parhau i fod yn rhan allweddol o ymchwil yng Nghymru."

Amlygodd y weminar bwysigrwydd defnyddio iaith syml yn y cynllun a'r angen parhaus i ymdrin â heriau talu a gweinyddol a all weithredu fel rhwystrau i gymryd rhan. 

Bydd y drafft terfynol yn cael ei gyhoeddi ym mis Mawrth, a'r cynllun yn lansio ym mis Ebrill 2025.

Am fwy o straeon ymchwil yn syth i’ch mewnflwch, cofrestrwch i dderbyn y bwletin.