
Yr Athro Gill Windle
Uwch Arweinydd Ymchwil
Mae Gill Windle (BSc; Msc; PhD) yn gerontolegydd sy'n arbenigo mewn ymchwil rhyngddisgyblaethol. Hi yw Cyfarwyddwr Canolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia Cymru (CDGD Cymru) a Chyfarwyddwr Effaith Ymchwil ac Ymgysylltu ar gyfer Ysgol y Gwyddorau Iechyd ym Mhrifysgol Bangor.
Nod ymchwil Gill yw gwella iechyd, lles a gwytnwch pobl hŷn, pobl sydd â dementia a'u cefnogwyr, a gwella darpariaeth gofal a gwasanaethau.
Mae ei chyflawniadau'n cynnwys:
- Cipio grantiau mawreddog, yn bennaf gan gynghorau ymchwil y DU (MRC; ESRC; AHRC) y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd (NIHR) ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ynghyd â chyllid gan Ymddiriedolaeth Wellcome a'r Alzheimer's Society, gyda chyfanswm gwerth o £22.4m.
- Aelodaeth o grwpiau strategaeth rhanbarthol a chenedlaethol (Llywodraeth Cymru) ar gyfer datblygu polisi dementia cenedlaethol a chyfraniadau iddynt fel aelod.
- Aelodaeth o grwpiau a rhwydweithiau Sefydliad Iechyd y Byd ar heneiddio a dementia a chyfraniadau iddynt fel aelod.
- I gydnabod ei gwaith, dyfarnwyd cadair bersonol iddi gan Brifysgol Bangor yn 2018.