Yvonne Wren

Yr Athro Yvonne Wren

Uwch Arweinydd Ymchwil

Mae Yvonne Wren yn Uwch Arweinydd Ymchwil gydag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ac yn Athro Therapi Iaith a Lleferydd a Dirprwy Gyfarwyddwr y Ganolfan Lleferydd, Clyw a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae hi hefyd yn Gyfarwyddwr Uned Ymchwil Therapi Iaith a Lleferydd Bryste yn Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Bryste ac Athro Lleferydd a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Bryste.  

Mae ymchwil yr Athro Wren yn canolbwyntio'n bennaf ar anhwylder sain lleferydd mewn plant, a gwefus a thaflod hollt ar draws oes. Mae hi'n arwain Astudiaeth Prosiect Pengwin Llywodraeth Cymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sy'n datblygu proses newydd ar gyfer monitro datblygiad sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu mewn plant sy'n tyfu i fyny yng Nghymru sy'n cael eu hamlygu i'r Gymraeg neu'r Saesneg neu'r ddwy iaith. Mae hi hefyd yn Brif Ymchwilydd Astudiaethau Cohort Cyfunol Holltau, a ariennir gan The Underwood Trust, a'r Astudiaeth Cleft@18-23, a ariennir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd.   

Fel Cadeirydd cynlluniau Ymchwilydd Hyrwyddo Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Dyfarniad Cyflymydd Personol a Gwobrau Datblygu Treialon, mae'r Athro Wren yn gweithio gyda Chyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i helpu i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr ymchwil ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae hi hefyd yn cefnogi ymchwilwyr unigol ym maes therapi iaith a lleferydd gyda gwobrau personol ar lefel doethurol ac ar lefel cyn ac ôl-ddoethurol a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a chyllidwyr eraill. 

Sefydliad

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Cysylltwch â Yvonne

Ebost

Ffôn07788 437176 

Cyfryngau cymdeithasol

LinkedIn