Y claf cyntaf yng Nghymru yn derbyn gwrthgyrff monoclonol mewn rhaglen dreialu glinigol COVID-19
20 Hydref
Claf yn Ysbyty Athrofaol Llandochau yw'r cyntaf yng Nghymru i gael trallwysiad o wrthgyrff monoclonol i drin COVID-19.
Cafodd Melanie James, o ardal Pontprennau yng Nghaerdydd, y trallwysiad yn rhan o raglen dreialu glinigol RECOVERY (Randomised Evaluation of COVid-19 thERapY), ar ôl cael ei derbyn i Ysbyty Athrofaol Llandochau gyda COVID-19.
Trallwyso gwrthgyrff monoclonol yw'r driniaeth ddiweddaraf i'w hychwanegu at raglen dreialu RECOVERY, sef y rhaglen dreialu glinigol reoledig ar hap fwyaf yn y byd ar gyfer COVID-19. Nod cangen newydd y rhaglen dreialu yw pennu effeithiolrwydd gwrthgyrff monoclonol wrth atal COVID-19 rhag mynd i mewn i gelloedd cleifion sydd wedi'u heintio â'r feirws, ac atal cleifion rhag mynd yn fwy difrifol sâl.
Roedd Melanie yn ddi-anadl ac yn derbyn ocsigen pan gafodd y trallwysiad gwrthgyrff monoclonol, cyn i'w symptomau ddechrau gwella.
Dywedodd Melanie, sy’n gwella gartref bellach:
"Nid oedd dim amheuaeth yn fy meddwl i ynglŷn â chymryd rhan yn yr ymchwil treialu hwn. Roeddwn i'n teimlo'n wael iawn ac wedi dirywio'n gyflym iawn, ac roeddwn i eisiau gwella a helpu pobl eraill i wella. Nid ydym yn gwybod llawer am COVID-19 ac roeddwn i eisiau rhoi rhywbeth yn ôl.
"Cefais i wybodaeth dda iawn am y rhaglen dreialu cyn i mi gydsynio i gymryd rhan. Atebodd y tîm bob un o fy nghwestiynau a fy helpu i deimlo’n gartrefol a rhoi amser i mi feddwl. Roeddwn i’n teimlo bod y tîm yn gwybod yn union beth oedden nhw’n ei wneud a’i ddweud, ac roeddwn i’n ymddiried ynddyn nhw yn llwyr o ddechrau'r broses.
"Alla i ddim canmol ddigon y driniaeth a'r gofal a gefais gan bawb a oedd yn gysylltiedig, o’r staff clinigol i'r glanhawyr a'r rhai a gynigiodd ddiod i mi. Roedd pawb mor ofalgar a charedig felly roeddwn i’n teimlo'n falch iawn o gymryd rhan yn yr ymchwil.
"Dechreuais i deimlo'n well y diwrnod ar ôl y trallwysiad, a dim ond ychydig o ocsigen gefais i y noson honno. Er fy mod i’n dal i wella, rwyf i’n teimlo'n llawer gwell yn barod nag oeddwn i wythnos yn ôl."
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi chwarae rhan bwysig yn rhaglen dreialu RECOVERY, ar ôl bod y cyntaf yn y DU i'w hagor ym mis Mawrth. Ers hynny, mae'r Bwrdd Iechyd wedi recriwtio dros 210 o gleifion i'r rhaglen dreialu, a ganfu ym mis Mehefin mai Dexamethamein oedd y cyffur cyntaf a ddangosodd ei fod yn gwella cyfraddau goroesi COVID-19.
Nawr, mae'r bwrdd iechyd unwaith eto ar flaen y gad gyda rhaglen dtreialu RECOVERY ar ôl dod yn un o’r sefydliadau cyntaf yng Nghymru i recriwtio claf i'w changen ddiweddaraf.
Dywedodd Zoe Hilton, Arweinydd y Tîm Ymchwil:
"Rydym yn falch iawn o fod wedi recriwtio'r claf cyntaf yng Nghymru i'r gangen newydd hon o raglen dreialu RECOVERY. Mae'n hynod gyffrous i fod yn gweithio ar flaen y gad o ran y gwaith pwysig i nodi triniaethau a allai fod yn effeithiol ar gyfer COVID-19, ac rwy’n hynod falch o’n cydweithwyr ymchwil ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro am eu hymdrechion diflino i ddwyn ffrwyth y datblygiad diweddaraf hwn.
"Rydym wrth ein bodd bod Melanie yn teimlo'n well, ac yn dymuno'r gorau iddi gyda'i hadferiad parhaus gartref, ond mae'n bwysig cydnabod bod y gangen hon o'r rhaglen dreialu yn parhau ar ei chamau cynnar iawn ac nad yw effeithiolrwydd eang y driniaeth hon yn hysbys eto.
"Ar ran y Bwrdd Iechyd, hoffwn ddiolch i Melanie, ac yn wir pob un o'n cleifion sydd wedi cymryd rhan mewn treialon clinigol drwy gydol y pandemig, am eu cyfraniad hanfodol wrth i ni chwilio am driniaethau effeithiol ar gyfer COVID-19."
Dywedodd Dr Stuart Walker, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro:
"Mae ein timau ymchwil wedi gwneud cyfraniad eithriadol drwy gydol pandemig COVID-19, a hoffwn i ganmol eu hymdrechion i weithredu’r rhaglen dreialu hon mewn modd mor rhagweithiol.
"Rydym yn gwylio'r ymchwil byd-eang sy’n parhau i COVID-19 gyda diddordeb mawr, yn y gobaith y gallwn ni weithredu ar ddatblygiadau cadarnhaol pellach yn ystod y misoedd nesaf.
"Yn y cyfamser, rydym ni unwaith eto yn annog aelodau'r cyhoedd i chwarae eu rhan wrth reoli cyfraddau heintio COVID-19 trwy ddilyn canllawiau'r llywodraeth, a sicrhau eu bod yn parhau i olchi eu dwylo'n rheolaidd am o leiaf 20 eiliad, yn gwisgo mwgwd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do, ac yn cadw pellter o ddau fetr oddi wrth eraill."
Dywedodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cymorth a Chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
"Mae hyn yn dangos y rhan hanfodol y mae'r gymuned ymchwil yng Nghymru yn ei chwarae yn yr ymdrech ledled y DU i ddod o hyd i driniaethau effeithiol i gleifion â COVID-19.
"Mae rhaglen dreialu RECOVERY yn un o nifer o astudiaethau iechyd cyhoeddus brys sydd ar waith yng Nghymru ar hyn o bryd, sy’n casglu'r dystiolaeth sydd ei hangen i guro’r pandemig hwn.
"Rwy'n hynod ddiolchgar am ymdrechion y timau ymchwil sy'n gweithio'n galed i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i gleifion, yn union fel Melanie."
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cydlynu’n genedlaethol ymchwil ac astudiaethau COVID-19 a sefydlwyd yng Nghymru.
Cyhoeddwyd yr erthygl uchod yn wreiddiol ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.