Y Cyngor Ymchwil Feddygol yn cyhoeddi trydedd rownd Partneriaeth Ymchwil Academaidd Glinigol

18 Mehefin

Mae’r Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC), mewn partneriaeth â’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR), wedi cyhoeddi y bydd trydedd rownd Partneriaeth Ymchwil Academaidd Glinigol yn agor ar 7 Awst 2020. Mae croeso i geisiadau oddi wrth staff ar lefel ymgynghorydd yng Nghymru.

Oherwydd effaith y pandemig COVID-19 ar y gymuned glinigol a hefyd y gymuned ymchwil, mae’r MRC yn gwneud y cyhoeddiad hwn cyn agor yr alwad er mwyn rhoi rhagor o amser i’r rheini sy’n dymuno ymgeisio i’r cynllun ddatblygu eu partneriaethau a’u cais.

I gael gwybod mwy, ymunwch â gweminar cynllun y Bartneriaeth Ymchwil Academaidd Glinigol a gynhelir ar 15 Gorffennaf, 10:00 - 11:00. Cymhwystra fydd ffocws y weminar hon. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan, e-bostiwch MRC.EventsandCommitteesTeam@mrc.ukri.org i gofrestru.

Pwy sy’n cael ymgeisio?

Mae’r cynllun yn agored i staff clinigol ar lefel ymgynghorydd neu lefel gyfwerth gyda PhD, neu MD (neu gymhwyster ôl-raddedig cyfwerth) nad ydyn nhw’n gwneud unrhyw weithgarwch ymchwilio sylweddol ar hyn o bryd ond sy’n dymuno datblygu eu diddordebau mewn ymchwil trwy bartneriaethau ymchwil cydweithredol o ansawdd uchel gydag ymchwilwyr biofeddygol ac iechyd blaenllaw sydd wedi hen sefydlu.

Dylai ymgeiswyr fod yn aelod o staff y GIG, staff sydd ar gontract â’r GIG neu sy’n gweithio yn y sector iechyd neu ofal cyhoeddus.

Beth maen nhw’n edrych amdano?

Mae croeso i brosiectau ar draws pob maes yng nghylchoedd gorchwyl a diddordebau’r arianwyr sy’n partneru, ac mae’n agored i glinigwyr mewn unrhyw arbenigedd neu broffesiwn. Gall ceisiadau amrywio o wyddoniaeth ddarganfod syml i ymchwil iechyd drosiadol a chymhwysol, a gallan nhw roi sylw i gwestiynau ymchwil yn amrywio o ddamcaniaethau mecanistig sy’n edrych ar glefyd penodol i ymchwil mewn meysydd blaenoriaeth fel gofal sylfaenol, iechyd y boblogaeth, iechyd cyhoeddus, iechyd meddwl, patholeg folecwlaidd a meysydd eraill sydd wedi’u hamlinellu yng nghynllun strategol yr MRC.

Mae croeso hefyd i geisiadau sy’n rhoi sylw i faterion yn ymwneud ag iechyd byd-eang a fydd o’r budd mwyaf i’r rheini sy’n byw mewn gwledydd incwm isel a chanolig, neu’r rheini sy’n cynnig dulliau amlddisgyblaeth o weithredu. Dylai’r prosiect arfaethedig fod wedi’i deilwra’n unol â diddordebau ac arbenigedd yr ymgeisydd a’r partner ymchwil a bod wedi’i ddylunio i sicrhau bod y cydweithredu o’r un budd i’r ddau barti.

16:00 ar 29 Hydref 2020 fydd y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau.

I gael rhagor o wybodaeth am yr alwad hon, ewch i wefan MRC (this is an email address – should be website -   neu anfonwch e-bost i CARP@mrc.ukri.org.