Y diweddaraf am y penderfyniad i oedi ag adolygu ceisiadau ar gyfer israddedigion a myfyrwyr gradd meistr

22 Hydref

Mae’r Awdurdod Ymchwil Iechyd (HRA) ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi cyhoeddi’r wybodaeth ddiweddaraf am y penderfyniad i oedi ag adolygu ceisiadau ar gyfer prosiectau israddedigion a myfyrwyr gradd meistr yn ystod y pandemig COVID-19.

Yn ôl ym mis Mawrth, cyhoeddodd yr HRA a’r gweinyddiaethau datganoledig ein penderfyniad i roi’r gorau i adolygu ceisiadau ar gyfer prosiectau israddedigion a myfyrwyr gradd meistr unigol am gyfnod amhenodol tra’n bod yn blaenoriaethu adolygu astudiaethau COVID-19 brys. Roedd hyn hefyd oherwydd bod yna gryn bwysau ar y GIG/HSC, gan gyfyngu ar eu gallu i gymryd rhan mewn astudiaethau ymchwil oedd heb gysylltiad â COVID-19.

Yn yr hydref, byddwn ni’n cyhoeddi ein canllawiau newydd ar gyfer ymchwil myfyrwyr, gan ymgynghori ar y ffordd o’u defnyddio. Bydd myfyrwyr, goruchwylwyr ymchwil a Sefydliadau Addysg Uwch yn cael gwahoddiad i rannu eu barn a helpu i lunio ein fframwaith.

Am y tro, byddwn ni’n parhau â’n safiad presennol o beidio ag adolygu ceisiadau ar gyfer prosiectau israddedigion a myfyrwyr gradd meistr.

Gallwch chi weld rhagor o’r wybodaeth ddiweddaraf ar wefan HRA.