Y diweddaraf ar brosiectau ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol at ddibenion addysgol
25 Hydref
Mae’r oedi â phrosiectau ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol at ddibenion addysgol wedi’i estyn tan fis Medi 2021. Mae’r penderfyniad yn unol â blaenoriaethau cenedlaethol ar gyfer y GIG/HSC i gefnogi astudiaethau COVID-19 ac ailddechrau treialon ac astudiaethau clinigol, yn ogystal â phwysau parhaus y pandemig COVID-19. Gwnaed y penderfyniad hwn ar y cyd â phartneriaid yn y gweinyddiaethau datganoledig.
Ni fyddwn ni’n adolygu ceisiadau ar gyfer prosiectau ymchwil myfyrwyr israddedig a myfyrwyr gradd meistr unigol tan fis Medi 2021.
Rydyn ni wedi cyhoeddi gwybodaeth am ffyrdd eraill y gall myfyrwyr ennill profiad o ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol.
Rydyn ni wedi ymrwymo i ymgysylltu â’n rhanddeiliaid fel rhan o waith datblygu canllawiau parhaus ar gyfer ymchwil myfyrwyr.
I dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am ymchwil myfyrwyr, anfonwch e-bost i gofrestru.