Person yn rhoi sleid o dan ficrosgop

Y du yn lansio rhaglen fuddsoddi gwerth £400 miliwn i hybu treialon clinigol a hyrwyddo gwyddorau bywyd

29 Awst

  • Lansio’r cydweithrediad cyhoeddus-preifat cyntaf yn y byd i sbarduno twf economaidd ac adeiladu GIG sy'n addas ar gyfer y dyfodol.
  • Bydd hyd at £400 miliwn o fuddsoddiad yn cefnogi mynediad cyflymach i gleifion at driniaethau blaengar, yn cryfhau treialon clinigol ac yn gwella gweithgynhyrchu meddyginiaethau yn y DU.
  • Bydd 18 o ganolfannau newydd ar gyfer treialon clinigol yn cael eu creu ledled y DU i gyflymu ymchwil.

Bydd cleifion y GIG yn cael mynediad cynharach at driniaethau newydd a bydd y DU yn dod yn gartref i ymchwil iechyd arloesol wrth i Lywodraeth y DU lansio rhaglen fuddsoddi cyhoeddus-preifat ar y cyd gwerth hyd at £400 miliwn.

Mae'r Cynllun Gwirfoddol ar gyfer y Rhaglen Fuddsoddi Prisio, Mynediad a Thwf Meddyginiaethau wedi'u Brandio (VPAG) yn agor heddiw. Bydd yn sicrhau bod buddsoddiad sylweddol yn cael ei wneud yn sector iechyd a gwyddorau bywyd y DU dros y pum mlynedd nesaf, gan hybu twf economaidd a chystadleurwydd byd-eang sector gwyddorau bywyd y DU.

Dyma'r cydweithrediad cyhoeddus-preifat mawr cyntaf o’r maint hwn yn y byd a bydd yn cryfhau'r GIG trwy gefnogi ymchwil arloesol, gan greu 18 o ganolfannau treialon clinigol newydd i gyflymu datblygiad meddyginiaethau newydd i gleifion. Trwy symleiddio prosesau, bydd yn sicrhau bod triniaethau newydd yn symud yn gyflym o labordai i wardiau, gan roi mynediad cyflymach i gleifion at driniaethau arloesol.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Wes Streeting:

“Mae'r buddsoddiad preifat hwn yn bleidlais sylweddol o hyder yn y DU a bydd yn cyflymu'r genhedlaeth nesaf o driniaethau i gleifion y GIG.

“Bydd yn gwella cystadleurwydd byd-eang y DU ac yn ei thrawsnewid yn ganolbwynt ymchwil iechyd, gan gefnogi GIG sy'n addas ar gyfer y dyfodol.

“Drwy dorri rhestrau aros a datrys problemau’r GIG, gallwn ni sicrhau ei fod yn beiriant ar gyfer twf, ac adeiladu'r gymdeithas iach sydd ei hangen ar gyfer economi iach.”

Bydd y cyllid yn cael ei defnyddio ar gyfer prosiectau iechyd a gwyddorau bywyd allweddol ledled y wlad er mwyn gwneud y canlynol:

  • Cynyddu cyfleoedd i gleifion gymryd rhan mewn treialon clinigol masnachol: Bydd y rhaglen yn dyrannu 75% o'i buddsoddiad i ehangu capasiti a gallu’r DU ar gyfer treialon clinigol masnachol. Bydd hyd at 18 o Ganolfannau Cyflawni Ymchwil Masnachol newydd yn cael eu sefydlu ar draws y pedair gwlad i wella ac adeiladu ar seilwaith treialon clinigol masnachol y DU a chefnogi recriwtio cleifion i dreialon. Bydd ymchwilwyr hefyd yn cael mwy o fynediad at yr offer a'r dechnoleg ddiweddaraf i sicrhau bod treialon arloesol yn gallu cael eu cynllunio ar draws ysbytai a lleoliadau gofal sylfaenol, cymunedol a phreswyl, gan ddod ag ymchwil yn agosach at gymunedau ledled y DU.
  • Creu arloesedd gweithgynhyrchu fferyllol cynaliadwy: Bydd tua 20% o'r cyllid yn cael ei gyfeirio at fentrau gweithgynhyrchu cynaliadwy, gan hyrwyddo effeithlonrwydd a lleihau gwastraff ac allyriadau yn y sector fferyllol. Mae'r ymdrechion hyn yn cyd-fynd â nodau Sero Net y llywodraeth a diwydiant, gan gefnogi ymrwymiadau amgylcheddol y sector a gwella cystadleurwydd byd-eang y DU.
  • Cefnogi dulliau arloesol Asesu Technoleg Iechyd: Bydd 5% olaf y buddsoddiad yn canolbwyntio ar foderneiddio prosesau Asesu Technoleg Iechyd – ffordd o asesu cost ac effeithiolrwydd clinigol triniaethau newydd – gan hwyluso gwell mynediad at feddyginiaethau arloesol. Mae hyn yn cynnwys cefnogaeth i Labordy Arloesi Asesu Technoleg Iechyd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) a chronfa ddata sganio gorwelion newydd – UK Pharmascan sy'n darparu gwybodaeth am feddyginiaethau newydd sy'n dod i'r farchnad – er budd cleifion a'r system iechyd ehangach. 

Mae VPAG yn gytundeb gwirfoddol rhwng yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, GIG Lloegr a Chymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain, a ddyluniwyd i wella canlyniadau cleifion, rheoli bil meddyginiaethau'r GIG, a chefnogi'r diwydiant gwyddorau bywyd. Wedi'i lansio fel rhan o'r cynllun, bydd buddsoddiad ychwanegol gan gwmnïau fferyllol yn cefnogi gweithredu'r Rhaglen Fuddsoddi.

Dywedodd Mark Drakeford, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

Mae'r rhaglen fuddsoddi hon yn gyfle cyffrous i wella sector gwyddorau bywyd y DU ymhellach. Rydym yn falch iawn o chwarae ein rhan yn hyn i hyrwyddo datblygiadau fferyllol a thechnolegol arloesol, a fydd yn y pen draw yn sicrhau manteision gwirioneddol i ofal iechyd a gofal cleifion.”