‘Neuromate’ robotig

Y ‘neuromate’ robotig cyntaf yng Nghymru’n cynorthwyo â llawdriniaeth epilepsi

Mae Uned BRAIN yn dathlu’r weithdrefn stereoelectroenseffalograffeg (SEEG), sef y cyntaf o’i math i’w gwneud â chymorth robotig yng Nghymru.

Bu’r robot ‘neuromate’, sef yr enw y mae ei grewyr Renishaw wedi’i roi iddo, yn cynorthwyo’r Athro Gray, yn Ysbyty Athrofaol Cymru, yn ystod llawdriniaeth wrth iddo ddefnyddio electrodau mewnymenyddol i fesur signalau trydanol yn yr ymennydd.

Cafodd y claf Denise Casey, o Gastell-nedd Port Talbot, ddiagnosis o epilepsi pan roedd hi’n 31 oed, ac mae wedi bod yn dioddef hyd at chwe ffit bob dydd am yr 20 mlynedd diwethaf.

Gyda’r fraich robotig, fe gymerodd yr Athro Gray 55 munud i nodi’r parth epileptogenig yn fanwl gywir a’i law-drin mewn gweithdrefn a fyddai fel rheol yn cymryd hyd at bedair awr. Perfformiwyd llawdriniaeth ddilynol wythnos yn ddiweddarach yn y gobaith o gael gwared â symptomau epileptig Denise.

“Mae robot Renishaw yn gam sylweddol ymlaen ar gyfer llawdriniaeth epilepsi yng Nghymru.

“Fe fydd yn ein galluogi ni i ymchwilio i hyd yn oed yr achosion mwyaf cymhleth, a’u trin i gael gwared â ffitiau i’n cleifion. Ar y cyd ag Uned BRAIN, fe fydd hefyd yn ein galluogi ni i berfformio ymchwil flaenllaw ar gyfer mesur signalau’r ymennydd a chyflenwi therapïau’n uniongyrchol i mewn i’r ymennydd, yn achos llawer o glefydau niwrolegol,” meddai’r Athro Gray.

Roedd Denise i’w gweld ochr yn ochr â’r Athro Gray ar raglen deledu BBC Cymru i drafod ei phrofiad. Gallwch chi wylio’r cyfweliad yma


Cyhoeddwyd gyntaf: @YmchwilCymru Rhyfin 2, Mehefin 2017