plant bach a phobl hŷn

Y plantos fu’n herio Dementia

Bu seicolegwyr o Brifysgol Bangor, gan gynnwys yr Athro Emeritws Bob Woods sy’n athro emeritws yn y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia, yn cymryd rhan mewn rhaglen ddogfen yn edrych ar beth sy’n digwydd pan ddaw plant meithrin a phobl sy’n byw â dementia at ei gilydd.

Bu'r tîm yn gweithio’n agos â chynhyrchwyr rhaglen ddogfen BBC Wales The Toddlers who Took on Dementia' i greu gweithgareddau pobl-ganolog i fachu sylw’r ddau grŵp oedran, yn cynnwys coginio cacen, canu ac ymarfer corff.

Treuliodd cleifion mewn canolfan gofal dydd ym Mae Colwyn dri diwrnod yng nghwmni’r plant ifanc yn gwneud gweithgareddau a oedd wedi’u cynllunio, i weld a fyddai’n bosibl adfer rhywfaint o’r cof roedden nhw wedi’i golli. Y nod oedd aildanio diddordebau’r oedolion o’r blynyddoedd pan roedden nhw’n iau, a deffro atgofion.

Mae’r ymchwil yn dal i fynd rhagddi ond yn ôl yr Athro Woods: “Beth rydyn ni eisiau ei wneud ydy newid yr amgylchedd, fel eu bod nhw’n gallu ymgysylltu, yn gallu rhyngweithio ag eraill yn ddi-feth. A thrwy hyn fe allwn ni dynnu ar y cyfoeth o arbenigedd a phrofiad a gwybodaeth sy’n dal i fod yno.”

Dyma a ddywedodd am y gwahaniaeth a wnaeth y plant: “Maen nhw wedi rhoi persbectif newydd i ni, ffordd newydd o edrych ar dementia. Mae’n holl bwysig gweld y person y tu ôl i’r diagnosis.”


Cyhoeddwyd gyntaf: @YmchwilCymru Rhyfin 4, Mehefin 2018