Helen Snooks

Y ras am ymchwil COVID-19: ymgeisio am gyllid yn ystod pandemig

Mae cael eich cais am gyllid ymchwil yn iawn bob tro yn her. Mae'n rhaid i chi sicrhau bod yr astudiaeth yn cryfhau'r sail dystiolaeth bresennol ac yn defnyddio methodoleg gadarn sy'n briodol i'ch cwestiwn ymchwil. Mae'n rhaid i chi ddatblygu eich tîm astudio, dod o hyd i'r partneriaid cywir a chynnwys y cyhoedd. 

Mae hi eisoes yn rhestr hir o bethau i'w gwneud, felly sut ydych chi'n cyflawni hyn pan fo amser yn brin? A sut mae gwneud hynny i gyd yn ystod pandemig? 

Mae Helen Snooks, Athro Ymchwil Gwasanaethau Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe ac Uwch Arweinydd Ymchwil ar ran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn rhannu ei phrofiad o wneud cais am gyllid ymchwil COVID-19.

Oherwydd y pandemig gwnaeth blaenoriaethau ymchwil newid yn gyflym

"Roeddwn i ym Moroco pan ddechreuodd pandemig COVID-19. Caeodd y ffiniau ac am gyfnod roeddwn i’n gaeth yno. Erbyn i mi gyrraedd yn ôl i Gymru, roeddem ni o dan gyfyngiadau symud ac roedd y rhan fwyaf o brosiectau'n cau. Rydym ni’n gwneud llawer o ymchwil i ofal brys ac yn dueddol i ddibynnu ar barafeddygon ymchwil i gasglu data yn lleol. Cawson nhw i gyd eu trosglwyddo i ddyletswyddau rheng flaen ac felly cafodd yr astudiaethau hynny eu rhoi o’r neilltu. Roedd llawer o ansicrwydd.

"Nid oeddwn i’n gwybod beth oedd yn mynd i ddigwydd. Roeddem ni’n gwybod bod blaenoriaethau ymchwil yn newid yn gyflym a bod yn rhaid i ni ddechrau meddwl yn wahanol. Nawr roedd rhaid canolbwyntio ar ba gyllid newydd oedd ar gael a pha gyfleoedd yr oedd yn eu creu."

Roedd cadw mewn cysylltiad â phobl ar y rheng flaen yn gymorth o ran dod o hyd i gyfleoedd ymchwil newydd

"Cefais syniad pan oeddwn i’n siarad â hen ffrind a chydweithiwr i mi, sydd wedi gweithio yn y gwasanaethau ambiwlans ers blynyddoedd. Dywedodd ef wrthyf eu bod fel arfer yn cael tua 3,000 o alwadau i 999 bob dydd yn Llundain, ond yn ystod y don gyntaf honno yr oedden nhw’n cael 11,000 o alwadau. Yn amlwg, ar yr un pryd, roedden nhw’n gorfod ymdopi â llawer o staff a oedd i ffwrdd yn ynysu ac yn sâl. 

"Roedd hyn yn golygu eu bod yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd ynglŷn ag at bwy y dylen nhw anfon ambiwlans. Yna, pan fyddan nhw’n cyrraedd y lleoliad, mae’n rhaid iddyn nhw wneud penderfyniadau ynghylch pwy i'w anfon i'r ysbyty. Ar ôl y sgwrs hon, meddyliais i’n gyflym ynghylch sut roedd y broses hon yn rhan allweddol o'r system ofalu am bobl â COVID-19."

Roedd angen atebion brys ar gyfer rhai cwestiynau ymchwil

"Brysbennu yw’r term sydd wedi’i roi ar benderfynu sut i drefnu cleifion yn ôl eu blaenoriaethau a'u hanghenion. Cododd y sgwrs gychwynnol honno, a sgyrsiau ag eraill, gwestiynau i mi o ran sut yr oedd yn cael ei gyflawni. 

"Sut roedd staff rheng flaen yn penderfynu at bwy i fynd? Sut roedden nhw’n penderfynu pwy i’w hebrwng i'r ysbyty? Mae angen iddyn nhw wneud y penderfyniadau hyn bob tro, ond roedd hyn ar raddfa enfawr. Ar yr un pryd, roedd adroddiadau am bobl nad oedden nhw’n cael eu cludo i'r ysbyty, ac a oedd yna’n dirywio gartref. Felly pa mor gyson oedd y penderfyniadau hyn? Gyda chymaint o gwestiynau, roeddwn i'n gwybod bod potensial ar gyfer prosiect ymchwil newydd yn hyn, a fyddai'n darparu tystiolaeth ar yr hyn sydd orau o ran brysbennu yn ystod y pandemig.

"Pan ddaw hi at wneud cais am gyllid, mae'n rhaid i chi ddiffinio'r cwestiwn y mae angen i chi ei ateb yng nghyd-destun eich problem ehangach. Yna mae angen i chi ddarganfod pa ddulliau ymchwil fydd yn ateb y cwestiwn hwnnw. Mae angen i hyn gyfateb yn berffaith. Os oes gennych chi gwestiwn sy'n fwy o beth na'ch dulliau, neu’r gwrthwyneb, yna bydd eich cais yn mynd i’r bin ar unwaith. Rhaid i chi ateb y brîff a dangos meddwl clir, a dyna y gwnaethom ni geisio’i wneud yn ein cais ni. Roeddem ni’n gwybod eu bod yn chwilio am ymchwil a fyddai'n dechrau'n gyflym a fyddai ag allbynnau cyflym."

Roedd perffeithio'r cais yn allweddol i ddatblygu'r tîm cywir

"Mae sicrhau bod gennych chi’r tîm ymchwil gorau posibl yn bwysig iawn. Mae’n rhaid i chi wneud pethau'n iawn. Er hynny, roedd yn anodd i bawb bryd hynny. Roedd pobl yn cael eu symud i brosiectau eraill, gan fod rhai wedi'u hoedi oherwydd y pandemig. Gweithiais i’n agos gyda'r Athro Alan Watkins gan fod gennym ni gyfrifoldeb ar y cyd am astudiaethau COVID-19, ac ar hyn o bryd mae e’n arwain yr ymchwil brysbennu hwn.

"Fy nghyngor i ymchwilwyr iau ar sut i wneud hyn yw llunio crynodeb byr iawn. Mae hwn yn baragraff y gallwch ei roi mewn e-bost i ymchwilwyr eraill, gan esbonio beth yw'r broblem, y cwestiwn yr ydych chi eisiau ei ateb, a'ch dulliau, mewn ychydig linellau yn unig. Mae'n rhaid i chi werthu eich syniad iddyn nhw. 

"Mae'r ymchwilwyr gorau yn brysur iawn, yn fwy prysur byth yn ystod pandemig. Fy nghyngor i yw os oes eisoes gennych chi bobl yn cymryd rhan, rhai blaengar, enwch nhw. Dywedwch gyda phwy yr ydych chi'n gweithio a'i gwneud yn werth eu hamser. Er eich bod chi eisiau cynnwys eraill yn natblygiad yr astudiaeth, os byddwch chi’n mynd at bobl yn rhy gynnar pan nad oes gennych chi syniad clir iawn, nid ydyn nhw’n mynd i drafferthu ymateb i chi."

Dyfal donc a dyrr y garreg

"Mae ymgeisio am gyllid ymchwil bob amser braidd yn gyfnod prysur. Yn ystod y don gyntaf o heintiau COVID-19, roedd y broses ymgeisio yn symud yn gyflymach, ond fel ymchwilydd, mae'n rhaid i chi ddod i arfer â gweithio'n gyflym. Rwyf i bob tro’n argymell, os oes gennych chi syniadau da, sy'n cyd-fynd â galwadau ariannu, y dylech roi gais am gyllid at ei gilydd. 

"Roedd cais arall yr oeddem ni wedi’i gyflwyno ochr yn ochr â'r astudiaeth hon, o'r enw EVITE Immunity, yn canolbwyntio ar werthuso'r polisi gwarchod yng Nghymru. Cafodd ei wrthod deirgwaith mewn chwe mis gan wahanol gyllidwyr ond yna buom yn llwyddiannus drwy’r rhaglen COVID-19 National Core Studies Immunityfelly rwy'n arwain ar yr ymchwil hon nawr.

"Mae'n bwysig cael yr wybodaeth ddiweddaraf o ran pa gyllid sydd ar gael a rhoi cynnig arni, dyfal donc ..."

Dysgwch fwy am yr astudiaeth hon: ‘Sut allwn ni sicrhau bod timau ambiwlans yn gwbl barod i ddelio ag achosion posibl o COVID-19?’

Ydych chi'n ymchwilydd? Dysgwch fwy am Gynlluniau Ariannu Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru  a chyfleoedd ariannu.


Mae'r astudiaeth hon, Pa fodel TRIage sydd fwyaf diogel ac effeithiol ar gyfer Rheoli galwyr 999 sydd ag amheuaeth o COVID-19 (TRIM) yn cael ei arwain gan yr Athro Alan Watkins o Brifysgol Abertawe. Mae cynnwys y cyhoedd yn yr astudiaeth hon wedi bod yn bwysig er mwyn cadw persbectif a phrofiadau cleifion ar flaen y gad ac mae tîm cynnwys y cyhoedd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi cefnogi'r gwaith hwn.

Os hoffech gael cefnogaeth gyda chyfranogiad y cyhoedd yn eich ymchwil, cysylltwch â thîm Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar cynnwys-ymchwil@wales.nhs.uk

Cyhoeddwyd gyntaf: 12 Chwefror 2021