Ydych chi eisiau helpu i wella ymchwil canser yng Nghymru?
Helpwch ymchwilwyr i gynyddu recriwtio mewn astudiaethau canser masnachol yng Nghymru dros y ddwy flynedd nesaf.
Mae Llywodraeth Cymru a'r gymuned ymchwil yng Nghymru wedi ymrwymo i wella bywydau pobl â chanser. Mae ehangu mynediad at dreialon clinigol o ansawdd uchel a chyflymu'r broses o gyflwyno treialon clinigol o ansawdd uchel yn ganolog i hyn ac i'r fenter Mynd i'r Afael â Chanser, sydd â’r nod o wella mynediad y cyhoedd a chleifion at ymchwil a lleihau anghydraddoldebau mewn canlyniadau ledled Cymru. Mae treialon clinigol yn cynnig mynediad at driniaethau arloesol ac yn mireinio'r rhai presennol, ac mae Cymru wedi derbyn buddsoddiad a fydd yn helpu i ehangu'r capasiti i gyflwyno treialon canser masnachol a gwella bywydau cleifion.
- Pa brofiad sydd ei angen arnaf i helpu?
- profiad o fod yn rhan o dreial clinigol ar gyfer ymchwil canser
- profiad o gynnwys y cyhoedd mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol
- diddordeb mewn cynyddu treialon clinigol masnachol yng Nghymru
- diddordeb mewn cynyddu amrywiaeth pobl sy'n cymryd rhan mewn treialon clinigol
- Beth fydd gofyn i mi ei wneud?
- Mynychu cyfarfodydd rheolaidd i adolygu a rhoi adborth ar gamau gweithredu a gyflawnir o dan y rhaglen Mynd i'r afael â chanser trwy ymchwil a darparu persbectif cleifion/y cyhoedd ar y gwaith.
- Pa mor hir fydd fy angen?
- Gofynnir i chi fynychu hyd at bedwar cyfarfod y flwyddyn, tan 2027. Bydd darllen dogfennau a mynychu cyfarfodydd yn cymryd tua thair i bedair awr.
- Beth yw rhai o'r buddion i mi?
- Sicrhau bod safbwyntiau cleifion a'r cyhoedd yn cael eu clywed
- Magu hyder a profiad mewn ymchwil iechyd a gofal.
- Pa gefnogaeth sydd ar gael?
- Talu costau teithio rhesymol a chostau gofalwr neu ofal plant ychwanegol,
- Cynnig taliad am amser o £25.00 yr awr (gall pobl ofyn am lai os ydynt yn derbyn budd-daliadau'r wladwriaeth).
Byddwch yn cael eich cefnogi gan aelodau o gyfarfod y Rhanddeiliaid a fydd yn gallu eich briffio am y cyfarfodydd.
Edrychwch ar ein canllawiau i gael mwy o wybodaeth am hyn.
Os ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau, gallwch gael cyngor cyfrinachol gan y Gwasanaeth Cyngor ar Fudd-daliadau wrth helpu ag Ymchwil.
Llenwch y ffurflen isod
Dyddiad cau:
Lleoliad:
Yn bersonol, Caerdydd ac ar-lein
Sefydliad Lletyol:
Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cyfle hwn
Cysylltwch â'r tîm