Ydych chi wedi cael profiad o iechyd meddwl gwael ac wedi cymryd rhan mewn ymchwil?
Os ydych chi wedi profi iechyd meddwl gwael ac wedi cymryd rhan mewn ymchwil o'r blaen, hoffai ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor glywed gennych chi.
Helpwch i lunio cais am gyllid a fydd yn profi "EQUA-Co" - offeryn newydd i sicrhau tegwch ac atebolrwydd mewn ymchwil iechyd meddwl. Mae ymchwilwyr yn cynllunio astudiaeth newydd i wneud ymchwil iechyd meddwl yn decach ac yn fwy cynhwysol. Ymunwch â ni mewn un cyfarfod i rannu eich meddyliau a helpu i wella ein cais am gyllid.
- Pa brofiad sydd ei angen arnaf i helpu?
Profiad bywyd o heriau iechyd meddwl (er enghraifft, ar ôl cael diagnosis iechyd meddwl).
Rhywfaint o brofiad o fod yn rhan o ymchwil fel cyfrannwr cyhoeddus (gallai hyn fod ar unrhyw lefel – hyd yn oed dim ond unwaith o'r blaen).
Nid oes angen sgiliau neu gymwysterau arbennig – eich safbwynt a'ch adborth yw'r hyn sydd bwysicaf.
- Beth fydd gofyn i mi ei wneud?
Cymryd rhan mewn un cyfarfod tua awr a hanner o hyd
Gwrando ar drosolwg syml o'r cynlluniau ymchwil a chrynodeb Saesneg plaen
Rhannu eich meddyliau a'ch adborth ar y cais:
Beth sy'n gwneud synnwyr?
Beth allai fod yn gliriach neu gellid ei wella?
A oes unrhyw beth rydych chi'n meddwl na ddylid ei gynnwys?
- Pa mor hir fydd fy angen?
Un cyfarfod fydd yn para tua awr a hanner
- Beth yw rhai o'r buddion i mi?
Gallwch helpu i wneud ymchwil iechyd meddwl yn decach ac yn fwy cynhwysol.
Bydd eich adborth yn llunio sut mae ymchwilwyr yn gweithio gyda phobl â phrofiad bywyd o heriau iechyd meddwl.
Byddwch yn dysgu mwy am sut mae ceisiadau am gyllid ymchwil yn cael eu datblygu.
Os yw'r prosiect yn cael ei ariannu, gallech gael eich gwahodd i ymuno â grŵp cyd-gynhyrchu tymor hwy.
- Pa gefnogaeth sydd ar gael?
Talu costau teithio rhesymol a chostau gofalwr neu ofal plant ychwanegol,
Cynnig taliad am amser o £25.00 yr awr (gall pobl ofyn am lai os ydynt yn derbyn budd-daliadau'r wladwriaeth).
Edrychwch ar ein canllawiau am fwy o wybodaeth am hyn.
Os ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau, gallwch gael cyngor cyfrinachol gan y Gwasanaeth Cyngor ar Fudd-daliadau wrth helpu ag Ymchwil.
Cwblhewch y ffurflen isod
Dyddiad cau:
Lleoliad:
Ar-lein
Sefydliad Lletyol:
Prifysgol Bangor
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cyfle hwn
Cysylltwch â'r tîm