Ydych chi yn siarad Cymraeg ac yn angerddol o safbwynt ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol?
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn chwilio am staff ymchwil Cymraeg eu hiaith fydd yn gallu helpu i godi proffil y gwaith ymchwil hanfodol hwn yng Nghymru.
Gall gweithgareddau gynnwys:
- Cyfweliad radio/teledu
- Cymryd rhan mewn podlediad
- Llunio blog
- Siarad mewn digwyddiad
- Ymddangos mewn fideo
Bydd y tïm cyfathrebu yn darparu cefnogaeth arbenigol ar gyfer pob gweithgaredd. Os oes gennych ddiddordeb, dewch i gysylltiad â ni.