pobl wrth gyfarfod

Galw ar ymarferwyr i helpu i gyfeirio ymchwil y dyfodol

19 Gorffennaf

*Ceisiadau bellach ar gau*

Cyn lansio’r Cynllun Ariannu Ymchwil i Gymru gyfan a’r Rhaglen Ymchwil er Budd Cleifion a’r Cyhoedd, sydd fel arfer yn ariannu tua £3m o ymchwil bob blwyddyn, mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn galw ar ymarferwyr y GIG o bob cwr o’r wlad i helpu i benderfynu pa gwestiynau ymchwil sy’n newid bywydau sydd bwysicaf. 

Fel rhan o’r alwad am gyllid, rhaid i bob cais gael ei adolygu gan Banel Blaenoriaethu Cymru Gyfan (AWPP) panel mawr a rhithwir sy’n cynnwys aseswyr cyhoeddus ac ymarfer.

Beth yw rôl aelod o Banel Blaenoriaethu Cymru Gyfan? 

Gofynnir i aseswyr adolygu pwysigrwydd yr ymchwil arfaethedig i gleifion, y cyhoedd a llunwyr polisi a defnyddio eu gwybodaeth a’u profiad fel ymarferwyr ar y rheng flaen i roi adborth.

Cyfrifoldebau allweddol 

Bydd aelodau’r panel yn adolygu o 1 - 10 cyflwyniad ymchwil ac yn darparu adborth ysgrifenedig, yn ddigidol ar y cwestiynau ymchwil mwyaf priodol i’w datblygu. Mae’r cyflwyniadau ymchwil yn fyr, fel arfer tua 10 tudalen. 

Am bwy rydym ni’n chwilio? 

Bydd angen i ymarferwyr sydd â diddordeb bod ag o leiaf bedair blynedd o brofiad a’u bod yn gweithio yn y GIG yng Nghymru ar hyn o bryd. Rydym yn croesawu datganiadau o ddiddordeb gan y rhai sy’n gweithio ym mhob agwedd ar y GIG o amrywiaeth o gefndiroedd, lefelau profiad a statws, ac yn enwedig y gweithwyr proffesiynol canlynol: Pediatregyddion, meddygon anadlol, oncolegwyr, gofal critigol, Meddygon Teulu, llawfeddygon. Bydd panel amrywiol yn rhoi llais i’r rhai y bydd y buddsoddi hwn yn effeithio arnynt. 

Mae galwadau blaenorol am ariannu wedi galluogi ymchwil sy’n newid bywydau i brawf cost-effeithiol newydd ar gyfer cleifion canser yr ysgyfaint, rheoli clefyd cronig y llygaid mewn gofal sylfaenol a defnyddio gwrthfiotigau i gleifion 999 â sepsis difrifol i enwi rhai.

Gwnaeth Ann John, Athro mewn Iechyd Cyhoeddus a Seiciatreg yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, eistedd ar y Panel Blaenoriaethu Cymru Gyfan yn 2019. Dywedodd hi:

Penderfynais i eistedd ar y panel gan fy mod i eisiau cael dweud fy nweud o ran lle mae’r arian cyhoeddus hwn yn cael ei wario i helpu pobl ledled Cymru. Mae’n amlwg bod cronfa gyfyngedig felly mae’n bwysig bod â phanel amrywiol o bobl o bob maes arbenigedd yn rhoi cyngor. 

Gallaf gofio gweld astudiaeth fe wnes i fwydo nôl arni am bobl ag anableddau dysgu yn cael ei hadrodd arni ac roedd yn deimlad mor dda o wybod bod gennyf i ran fach yn y gwaith o wireddu’r ymchwil honno - a fydd, gobeithio, yn dylanwadu ar newid ac yn gwella bywydau."  

Dywedodd Michael Bowdery, Pennaeth Rhaglenni Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru,

Mae’r Panel Blaenoriaethu Cymru Gyfan yn banel rhithwir sy’n tyfu’n barhaus ac sy’n cynnal adolygiadau o bell o geisiadau, mae eu hadborth yn hanfodol er mwyn sicrhau ein bod yn buddsoddi yn yr ymchwil fwyaf priodol a fydd yn cael effaith ystyrlon."

Sut i wneud cais? 

I gofrestru’ch diddordeb, llenwch y ffurflen ar-lein hon neu ar gyfer cwestiynau, anfonwch e-bost at Wales@soton.ac.uk. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 15 Awst