gwyddonydd yn gwneud prawf labordy

Llywodraeth y DU yn cyhoeddi ymateb llawn i argymhellion O'Shaughnessy i gyflymu treialon clinigol

22 Tachwedd

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei hymateb llawn i adolygiad annibynnol yr Arglwydd O'Shaughnessy i dreialon clinigol masnachol yn y DU.

Mae'r ymateb yn amlinellu manylion sut y byddwn yn ei gwneud yn haws ac yn gyflymach i gleifion y GIG gael mynediad at y triniaethau arloesol diweddaraf a gwneud y DU yn un o'r lleoedd gorau yn y byd i gynnal ymchwil glinigol. Mae ymateb llawn y Llywodraeth ar gael yma.

Cymru'n chwarae ei rhan wrth wella treialon clinigol

Mae Cymru, gan weithio ochr yn ochr â holl genhedloedd eraill y DU a phartneriaid allweddol eraill, i gyd yn cyd-fynd â gweithredu'r weledigaeth gyffredinol ar gyfer dyfodol ymchwil glinigol y DU. Mae ein cynlluniau ar y cyd ar gyfer gweithredu wedi cael eu diweddaru i gynnwys ein hymateb i argymhellion yr Arglwydd O'Shaughnessy, a fydd nid yn unig  yn gwella bywydau cleifion, pobl a chymunedau trwy ymchwil ond yn gwella ein gallu i  ddod â buddsoddiadau i'r DU, gan helpu i adeiladu'r economi a chyfrannu at sector gwyddorau bywyd deinamig.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan : "Mae ymchwil glinigol yn hanfodol gan ei fod yn sicrhau bod gan bobl fynediad at astudiaethau arloesol sy'n helpu i ddarparu gwell triniaeth a gofal i bawb.

Mae'r cynllun diweddaraf, sy'n ystyried argymhellion adolygiad yr Arglwydd O'Shaughnessy yn nodi camau pendant, a thrwy weithio gyda'n partneriaid yn y DU, mae Cymru'n awyddus i chwarae ei rhan wrth gynyddu atyniad y DU fel cyrchfan ar gyfer ymchwil sy'n newid bywydau."

Am ragor o wybodaeth am ymateb llywodraeth y DU [Saesneg] - darllenwch flog NIHR yma.

Sut alla i gofrestru ar gyfer ymchwil?

I gymryd rhan, gallwch ymuno â'r 370,000 o bobl sydd eisoes wedi cofrestru i Fod yn rhan o Ymchwil [Saesneg] lle byddwch yn dewis y cyflyrau iechyd y mae gennych ddiddordeb ynddynt i gael gwybod mwy.