stethoscope

Ymchwil Cymru yn anelu at gyflymu'r broses o sgrinio canser yr ysgyfaint

11 Gorffennaf

Canser yr ysgyfaint yw prif achos marwolaethau canser yn y DU ac mae'n gyfrifol am fwy na 20% o'r holl farwolaethau canser yng Nghymru, a'r mwyafrif o gleifion yn cael diagnosis ar gam datblygedig yn unig. Dim ond 6% o gleifion sy'n goroesi am bum mlynedd ar ôl diagnosis. 

Mae dau dreial, a gefnogir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn archwilio ffyrdd o gyflymu'r broses sgrinio canser yr ysgyfaint, fel y gellir cychwyn ar driniaeth yn gynt – mae'r ddau yn canolbwyntio ar brofion gwaed arloesol.

Mae'r astudiaeth gyntaf  dan arweiniad yr Athro Dean Harris ac Ira Goldsmith o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn defnyddio techneg o'r enw sbectrosgopeg Raman i ganfod newidiadau mewn samplau gwaed sy'n gysylltiedig â chanser yr ysgyfaint. Os bydd yn llwyddiannus, disgwylir iddo gael effaith sylweddol ar roi diagnosis o ganser yr ysgyfaint yn gynharach. Dywedodd yr Athro Harris: 

Mae diagnosis cynnar yn hanfodol pan fydd nodwl amheus yn cael ei ganfod yn y broses ddelweddu. Mae profion sgrinio cyfredol yn cynnwys sganiau CT nad ydynt bob amser yn gallu dweud a yw nodylau yn ganser. Mae ein hastudiaeth yn archwilio a all y prawf gwaed adnabod nodylau malaen yn gynt, gan ganiatáu ymyrraeth gynharach, neu i nodi a oes gan nodylau risg isel iawn o ddod yn malaen yn y dyfodol, a allai osgoi'r angen am sganiau CT pellach, gan arbed adnoddau. Gallai canlyniad yr astudiaeth hon fod yn hynod arwyddocaol ar gyfer diagnosis cynharach o ganser yr ysgyfaint, gan wella canlyniadau i'n cleifion."

Mae cleifion sydd â nodylau ysgyfaint wedi'u canfod yn cael eu recriwtio o bob rhan o Fyrddau Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Cwm Taf Morgannwg ac Aneurin Bevan. Mae canlyniadau eu profion gwaed bellach yn cael eu dadansoddi, a disgwylir canlyniadau cynnar yr haf hwn.

Nod yr ail astudiaeth hefyd yw defnyddio prawf gwaed i fyrhau'n sylweddol yr amser o atgyfeirio i ddechrau'r driniaeth. 

Wedi'i chyd-arwain gan Dr Madga Meissner, Oncolegydd Meddygol Ymgynghorol yng Nghanolfan Ganser Felindre, a ariannir gan grant Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru Ymchwil er Budd Cleifion a’r Cyhoedd (RfPPB), cyflwynodd astudiaeth QuicDNA brawf gwaed newydd sy'n gallu canfod newidiadau genetig yn DNA tiwmor sy'n cylchredeg (a elwir yn ctDNA). 

Ar hyn o bryd, mae cleifion yr amheuir bod ganddynt ganser yr ysgyfaint yn cael eu hatgyfeirio am biopsi i gasglu sampl fach o feinwe tiwmor. Mae hyn yn cael ei brofi mewn labordai'r GIG, gyda'r canlyniadau yn cael eu hadolygu gan glinigwyr i gadarnhau diagnosis a chynllunio triniaeth. Gall hyn gymryd wyth wythnos neu fwy, a all fod yn hanfodol i'r rhai sydd â chanser yr ysgyfaint ar gam datblygedig.

Roedd canlyniadau'r profion ctDNA yn cyfateb i ganlyniadau biopsi meinwe mewn 98% o achosion lle roedd y ddau ar gael, ac roeddent ar gael bythefnos yn gynharach ar gyfartaledd o ddyddiad casglu'r sampl. 

Cydnabuwyd yr astudiaeth arloesol hon gyda Gwobr Canser Moondance yn 2024. Bydd ei ganfyddiadau nawr yn cael eu dilysu mewn astudiaeth fwy.