Tîm rheoli iechyd poblogaeth yng Nghynhadledd RnD Cwm Taf Morgannwg

"Dydyn ni ddim eisiau dim ond ymladd tân" - sut mae astudiaeth ymchwil gydweithredol yn helpu i fynd i'r afael â thlodi tanwydd gaeaf yng Nghymru

Mae arbenigwyr iechyd ac eiddilwch y boblogaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi lansio astudiaeth ymchwil arloesol i helpu poblogaethau agored i niwed i osgoi cyflyrau iechyd niweidiol a achoswyd gan dlodi tanwydd gaeaf.

Nod y prosiect oedd lleihau pwysau'r gaeaf ar wasanaethau gofal sylfaenol ac eilaidd drwy ddarparu gofal rhagweithiol i bobl agored i niwed ac eiddil yn ardal Taf Elái, gan ymgysylltu â’r Gwasanaeth Eiddilwch a chyfeirio at wasanaethau cymorth Awdurdodau Lleol, a chynlluniau gwella effeithlonrwydd ynni cartref a ddarperir gan Lywodraeth Cymru.

Tynnodd Gemma Northey, Ymgynghorydd Uned Iechyd Cyhoeddus a swyddog arweiniol Uned Rheoli Iechyd y Boblogaeth yng Nghwm Taf Morgannwg, sylw at ymchwil sy'n dangos bod pobl sy'n byw mewn cartrefi oer mewn mwy o berygl o ddatblygu cyflyrau iechyd niweidiol gan gynnwys strôc, trawiad ar y galon, pryder, iselder a chwympiadau.

Gan gydnabod effaith pwysau'r gaeaf a thlodi tanwydd ar grwpiau agored i niwed yn yr ardal, gweithiodd tîm y prosiect gyda'r Gwasanaeth Eiddilwch yng Nghlwstwr Gofal Sylfaenol Taf Elái a defnyddio data o'r rhaglen Segmentu Poblogaeth a Haenu Risg a'r banc data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL), a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, i nodi grwpiau risg uchel. 

Dywedodd Gemma mai dyma'r tro cyntaf i ddull rheoli iechyd y boblogaeth gael ei weithredu'n llwyddiannus yng Nghymru, gan ychwanegu:  "Gydag adnoddau'n fwyfwy tynn ar draws gwasanaethau iechyd a gofal, mae angen i ni edrych ar fodelau darparu amgen a symud y model meddygol traddodiadol tuag at ymgorffori ymyriadau mwy ataliol, a hwylusir gan ddull rheoli iechyd poblogaeth".

Dywedodd Samantha Roberts, Uwch Ymarferydd Iechyd Cyhoeddus, fod llwyddiant y prosiect yn rhannol oherwydd cydweithio effeithiol â Gwasanaeth Eiddilwch Taf Trelái i adnabod a chysylltu â phobl sydd â risgiau iechyd uwch yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.

Ychwanegodd:  "Fe wnaethom adnabod dros 3,200 o gleifion a chysylltu â dros 600 ohonyn nhw i ddarganfod pa gefnogaeth oedd ei hangen arnyn nhw.  

"O'r rhain, cyfeiriwyd bron i 200 o gleifion am ymyrraeth bellach neu wasanaethau trydydd sector. Fe wnaethon ni eu helpu i gael mynediad at, ac ymgysylltu, â gwasanaethau fel eiddilwch a rhagnodi cymdeithasol er mwyn diwallu eu hanghenion.”

Ychwanegodd Christopher Waters, Nyrs Eiddilwch yn nhîm y prosiect: "Mae cymorth cynnar a chynllunio gofal rhagweladwy yn gwneud gwahaniaeth mawr. Dydyn ni ddim eisiau dim ond ymladd tân, nac aros i broblemau ddigwydd - mae sgôr eiddilwch neu gyflwr cronig person yn aml ar lwybr tuag i lawr, felly mae angen i ni nodi hyn cyn iddyn nhw ddirywio a dod i ddibynnu ar ofal mwy cymhleth."

Ychwanegodd Gemma fod hwn yn brosiect dichonoldeb er mwyn profi cymhwyso dull rheoli iechyd y boblogaeth. Amlygodd y gwerth ar gyfer cynllunio yn y dyfodol, gan nodi gwerthusiad parhaus y gwaith. 

Meddai: "Rydym yn gobeithio y bydd yr astudiaeth beilot hon yn dechrau adeiladu'r sylfaen dystiolaeth yng Nghymru er mwyn llywio cynllunio cenedlaethol a lleol ar gyfer dulliau a pholisi rheoli iechyd y boblogaeth."

Os oes gennych ddiddordeb i ddarganfod mwy am y dull rheoli iechyd y boblogaeth, ewch i wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.