Ymchwil i ddelweddu canser a datblygu portffolio ymchwil newydd a blaengar a fydd yn ceisio gwella'r ffordd yr ydym yn diagnosio ac yn trin cleifion sydd â chanser oesoffagaidd

Prif Negeseuon

Roedd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar ganser y llwnc (canser oesoffagaidd) a'i nod oedd gwella'r ffordd y mae meddygon a chleifion yn asesu maint a lledaeniad eu clefyd (llwyfannu). Yn gyffredinol, mae gan gleifion sydd â chanser oesoffagaidd prognosis gwael ac mae nifer yr achosion yng Nghymru yn cynyddu oherwydd bod gordewdra, ysmygu a defnyddio alcohol yn ffactorau risg mawr ar gyfer datblygiad canser oesoffagaidd. Y rhesymau dros y prosiect pwysig hwn oedd bod gwahaniaethau mewn arfer llwyfannu wedi cael eu trafod, ond ni ymchwiliwyd iddynt yn ffurfiol. Rydym yn gwybod bod yn rhaid gwella ein perfformiad ar gyfer canfod lledaeniad clefyd (metastases), ac nid yw llawer o gleifion yn cael unrhyw effaith, neu ychydig o effaith, o gemotherapi, felly byddai rhagweld hyn gyda sganiau radioleg o fudd i gleifion. 

Roedd gan y prosiect hwn dri phrif nod; 

  1. i ddeall pa arferion cyfredol sy'n digwydd pan fyddwn yn llwyfannu'r clefyd yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig,
  2. i wella pa mor dda yr ydym yn gwneud diagnosis o metastases gan ddefnyddio sganiau radioleg ynghyd â thechnegau newydd
  3. i wella'r ffordd yr ydym yn ceisio rhagweld pa mor dda y mae triniaeth yn gweithio trwy ddefnyddio sganiau radioleg. 

Daethom o hyd i’r canlynol: 

  • Mae amrywiaeth eang yn y defnydd o brawf penodol o'r enw Uwchsain Endosgopig ledled y DU sy'n golygu nad oes gan rai cleifion fynediad at y gwasanaethau hyn. Canfuom fod ansicrwydd hefyd ynghylch buddion Uwchsain Endosgopig. Cytundeb ynghylch pa gleifion ddylai dderbyn Uwchsain Endosgopig, a pham, y dylid ceisio amdano. 
  • Mae marcwyr genetig newydd nad ydynt wedi'u disgrifio o'r blaen yn gysylltiedig â lledaeniad metastases i chwyddau lymff, sy'n golygu ein bod wedi darganfod targedau newydd posibl ar gyfer ymyrraeth triniaeth canser ac y gallem wneud ein perfformiad llwyfannu’n fwy cywir. 
  • Mae cyfuno sgan radioleg o'r enw Tomograffeg Allyriadau Positronau (sef “positron emission tomography” neu PET) gyda phrawf genetig newydd yn ein helpu i ragweld pa gleifion sydd wedi cael ymateb i gemotherapi cyn iddynt gael llawdriniaeth fawr i dynnu'r tiwmor. 
Wedi'i gwblhau
Research lead
Dr Kieran Foley
Swm
£83,960.00
Statws
Wedi’i gwblhau
Dyddiad cychwyn
1 Ebrill 2020
Dyddiad cau
31 Mawrth 2023
Gwobr
NHS Research Time Award
Cyfeirnod y Prosiect
NHS.RTA-19-09