drôn yn darparu diffibriliwr

Ymchwil i ddiffibrilwyr yn cael eu 'hedfan' gan ddrôn i achub mwy o fywydau

16 Ebrill

Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn archwilio a allai diffibrilwyr a ddarperir gan ddrôn wneud gwahaniaeth i rywun sy'n cael ataliad ar y galon, mewn astudiaeth a ariennir yn rhannol gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Gyda chymorth ariannol gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Cyngor Adfywio’r DU a'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal, bydd yr astudiaeth yn dechrau'r cam nesaf cyn bo hir, sef cyfweld â phobl sydd wedi cynorthwyo mewn ataliad ar y galon go iawn, i ddeall y gwahaniaeth y gallai diffibriliwr a ddarperir gan ddrôn fod wedi'i wneud.

Nod yr astudiaeth Diffibrilwyr a Ddarperir gan Ddrôn (Prosiect 3D) yw cynnal nifer o hediadau prawf i ddangos dichonoldeb darparu diffibriliwr trwy ddrôn ar ôl galwad 999.

Yr haf hwn, bydd ymchwilwyr hefyd yn ymgymryd â theithiau hedfan pellter hir 'y tu hwnt i olwg gweledol' i ddangos sut y byddai cyfathrebu amser real rhwng ystafell reoli 999 a thîm gweithredu dronau’n gweithio yn ystod galwad ataliad y galon.

Meddai'r Athro Nigel Rees, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ymchwil ac Arloesedd yr Ymddiriedolaeth:  "Efallai y bydd diffibrilwyr a gyflwynir gan ddronau yn swnio fel rhywbeth o ffilm ffug-wyddonol, ond os mai dyma'r ffordd gyflymaf o gael diffibriliwr i glaf, mae'n offeryn gwych ar gael i ni er mwyn gwella cyfraddau goroesi.

"Nid yw gwylwyr unigol yn cael eu cyfarwyddo ar hyn o bryd gan y rhai sy’n delio â galwadau ambiwlans i adael claf i nôl diffibriliwr gerllaw, gan mai’r flaenoriaeth yw cywasgu’r frest.

"Byddai darparu diffibriliwr yn uniongyrchol iddyn nhw yn negyddu'r angen i adael y claf, ac o bosib yn gwella'r siawns o oroesi."

Mae dros 6,000 o bobl yn cael ataliad ar y galon yn y gymuned yng Nghymru bob blwyddyn.  Pan fydd rhywun yn cael ataliad ar y galon, maen nhw naill ai'n stopio anadlu'n gyfan gwbl neu'n anadlu’n galed neu’n anaml iawn.

Gall diffibriliwr helpu i ailgychwyn eu calon wrth aros i'r gwasanaethau brys gyrraedd, yn ogystal â darparu adfywio cardio-anadlol ar unwaith.

Cadwch i fyny gyda holl waith ymchwil diweddaraf o Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a sefydliadau ymchwil eraill ledled Cymru drwy gofrestru ar gyfer ein bwletin.