Man having an ECG

Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a’r British Heart Foundation mewn cytundeb ariannu ar y cyd gwerth £3m ar gyfer ymchwil cardiofasgwlaidd

21 Chwefror

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a’r British Heart Foundation (BHF) wedi cyhoeddi cytundeb sylweddol, gwerth £3m, i gefnogi ymchwil cardiofasgwlaidd yng Nghymru drwy gyllid ar gyfer y Rhwydwaith Ymchwil Cardiofasgwlaidd Cenedlaethol (NCRN).

Mae'r cytundeb pum mlynedd yn golygu y bydd ymchwilwyr o Gymru yn gallu ymchwilio i feysydd allweddol o anghenion iechyd a gofal nad ydynt yn cael eu diwallu mewn pobl â chyflyrau'r galon fel arhythmia (curiad calon afreolaidd), clefyd y galon a heneiddio fasgwlaidd.

Bydd y rhwydwaith, dan arweiniad Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd, yn dod ag ymchwilwyr, gweithwyr iechyd proffesiynol, cynrychiolwyr cleifion ac eraill ynghyd i wella atal, diagnosis a thriniaeth ar gyfer clefyd cardiofasgwlaidd yng Nghymru a thu hwnt. 

Bydd y cytundeb yn golygu y bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu swyddi ymchwil ac arweinyddiaeth allweddol, gyda BHF yn ariannu staff ymchwil ychwanegol i helpu i fynd i'r afael â thangynrychiolaeth cymunedau a dan-wasanaethir mewn ymchwil gardiofasgwlaidd. Bydd y buddsoddiad hefyd yn cefnogi ceisiadau ymchwil trawsddisgyblaethol, a mynediad at ddata i gefnogi ymchwil cardiofasgwlaidd.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles AS: "Mae'r bartneriaeth nodedig hon gwerth £3 miliwn rhwng Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a’r British Heart Foundation yn gam sylweddol ymlaen yn ein brwydr yn erbyn clefyd cardiofasgwlaidd.

"Trwy gyfuno ein harbenigedd a'n hadnoddau, nid ariannu ymchwil yn unig rydym ni’n ei wneud - rydym ni’n buddsoddi yn iechyd pobl ledled Cymru ar gyfer y dyfodol."

Dywedodd Rhodri Thomas, Pennaeth BHF Cymru: "Mae’r British Heart Foundation yn llawn cyffro i fod yn rhan o'r cytundeb cyd-ariannu newydd hwn gyda Llywodraeth Cymru sy'n sicrhau dyfodol cynaliadwy i Rwydwaith Ymchwil Cardiofasgwlaidd Cenedlaethol Cymru. Mae'r ymdrech ddiweddaraf hon i rymuso ymchwil cardiofasgwlaidd ac arloesedd yng Nghymru yn arbennig o gyffrous i mi, ac wrth gwrs fy nghydweithwyr yn BHF Cymru, a bydd yn helpu i ddatblygu cyfrwng i brifysgolion a byrddau iechyd ledled Cymru ddod at ei gilydd mewn cenhadaeth gyffredin." 

Ychwanegodd yr Athro Chris George, Cyfarwyddwr y Rhwydwaith Ymchwil Cardiofasgwlaidd Cenedlaethol: "Mae'r gynghrair newydd hon rhwng Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a'r BHF mor bwysig. Mae'r ymrwymiad i ariannu ehangu’r Rhwydwaith yn dangos gwir hyder yn ein gweledigaeth ar gyfer gwella bywydau pobl â chlefyd y galon a chlefyd cylchrediad y gwaed.

"Mae'r dyfarniad hwn yn ein helpu i roi poblogaeth Cymru wrth wraidd popeth a wnawn, a dyma fydd yr elfen allweddol er mwyn troi ymchwil o'r radd flaenaf a wneir yng Nghymru heddiw yn driniaethau newydd ar gyfer yfory."

Bydd y cyn-reolwr gwasanaethau ariannol a drodd yn awdur ac yn hwylusydd creadigol, Leigh Manley, 47 oed o Gaerdydd, hefyd yn bresennol ac yn siarad yn y digwyddiad am ei brofiadau ar ôl iddo ddioddef digwyddiad cardiaidd annisgwyl bron i ddegawd yn ôl a fu bron â chymryd ei fywyd.

Roedd Leigh, sy’n gefnogwr rygbi ac yn wreiddiol o Faesteg, wedi bod yn ei gampfa leol pan yn sydyn roedd yn teimlo 'fel petai rhywun wedi tynnu'r cebl allan ohonof i' ac fe gwympodd, yn anymwybodol, hanner ffordd trwy ei sesiwn ar beiriant rhedeg.

Ar ôl cael ei drin gan barafeddygon cafodd ddiagnosis o gardiomyopathi arhythmogenig, cyflwr cardiaidd difrifol sy'n bygwth bywyd ac sy'n achosi creithio i'r galon. Ar ôl cael diagnosis gosodwyd dyfais ICD (diffibriliwr cardiodroi mewnblanadwy) ar unwaith.

Leigh with his wife on the beach
Leigh ar wyliau gyda'i deulu ychydig wythnosau cyn ei ddigwyddiad cardiaidd.

Dywedodd: "Does dim gwellhad i fy nghlefyd i, felly mae’r driniaeth wedi canolbwyntio ar reoli’r cyflwr trwy gyfuniad o feddyginiaethau, llawdriniaethau catheter abladol, a chardiodroi (therapi sioc). Dydy e ddim yn ddelfrydol achos dwi'n byw gydag atebion amherffaith i gyflwr cymhleth, a dyna pam mae ymchwil mor bwysig i fi - yn enwedig gan fod yna gymhlethdod ychwanegol bod y cyflwr yn debygol o fod yn genetig.

"Mae unrhyw beth y gellir ei wneud i hybu ymchwil i gyflyrau cardiofasgwlaidd mor bwysig - mae'r camsyniad hwn o hyd mai dim ond oedolion hŷn sy'n dioddef o salwch o'r math yma, ond nid yw hynny'n wir, gall ddigwydd i bobl o bob oed ac o bob cefndir."

Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles: "Mae straeon pobl fel Leigh Manley yn ein hatgoffa pam mae'r buddsoddiad hwn mor hanfodol. Drwy'r ymchwil hwn, ein nod yw datblygu triniaethau gwell a gwella canlyniadau i bawb y mae cyflyrau'r galon yng Nghymru yn effeithio arnynt."