nyrs yn gofalu am glaf

Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn nodi ei uchelgeisiau mewn cynllun tair blynedd newydd

20 Ebrill

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn lansio cynllun tair blynedd uchelgeisiol ac eang i barhau i ychwanegu at y momentwm a welwyd yn y gymuned ymchwil yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf.

Bydd y cynllun newydd, Mae ymchwil yn bwysig: ein cynllun ar gyfer gwella ymchwil iechyd a gofal yng Nghymru 2022 - 2025, yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â phartneriaid, gan gynnwys arweinwyr ymchwil a datblygu mewn byrddau iechyd a’r GIG ehangach, gofal cymdeithasol, sefydliadau addysg uwch, diwydiant ac arianwyr i wella ymchwil iechyd a gofal, i gefnogi llwybrau i yrfaoedd ymchwil, ac i ariannu a threfnu ymchwil.

Mae’r cynllun yn nodi pedwar nod allweddol:

Pennu’r agenda ar gyfer ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol.

Drwy ddatblygu strategaethau ymchwil, gan gynnwys cryfhau arweinyddiaeth gofal cymdeithasol oedolion, cyflawni’r strategaeth ymchwil canser gydgysylltiedig i Gymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar a’r cynllun gweithredu ar gyfer clefydau prin, a sicrhau cyfraniad ystyrlon gan Gymru at strategaeth genomeg llywodraeth y DU, mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn ymrwymo i hyrwyddo ymchwil fel sbardun ar gyfer arloesi a gwella.

Ariannu a threfnu ymchwil.   

Mae’r cynllun yn nodi ymrwymiad i barhau i weithio gydag asiantaethau ariannu ymchwil yng Nghymru ac yn y DU ehangach i ariannu ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd y sefydliad yn rhedeg ei gynlluniau ariannu ymchwil ei hun, yn ogystal â pharhau i wneud cyfraniadau cyllid i sefydliadau fel y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd, yn cymryd rhan fel aelod o fforwm arianwyr rhyngwladol Sicrhau Gwerth mewn Ymchwil, a darparu a rheoli perfformiad cyllid seilwaith ar gyfer canolfannau ac unedau ymchwil.

Datblygu capasiti a gallu ym maes ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol.

Sefydlwyd y Gyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru fel colofn graidd o lwybrau gyrfaoedd ymchwil cenedlaethol, yn darparu cymorth, canllawiau a hyfforddiant i ymchwilwyr ar bob cam ac ar draws pob proffesiwn.  Mae’r cynllun hefyd yn cyhoeddi cyllid ar gyfer canolfan ymchwil gofal cymdeithasol oedolion newydd, er mwyn helpu i ddod ag ymchwil gofal cymdeithasol oedolion yng Nghymru yn unol â’r llwyddiannau a welwyd ym maes ymchwil plant drwy CASCADE. Gan adeiladu ar gryfderau presennol Banc Data SAIL, a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, mae’r cynllun yn nodi ei amcanion i barhau i weithio gyda phartneriaid a hwyluso partneriaeth effeithiol gyda rhaglen Adnoddau Data Cenedlaethol newydd GIG Cymru i wella mynediad at ddata iechyd a gofal at ddibenion ymchwil.

Defnyddio ymchwil i wella iechyd a gofal cymdeithasol.

Gan fanteisio ar lwyddiant Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru, bydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn sefydlu Canolfan Dystiolaeth newydd sy’n adeiladu ar y cyflawniadau hynny ac yn eu prif ffrydio i fynd i’r afael â materion â blaenoriaeth allweddol ym maes iechyd, iechyd cyhoeddus a gofal cymdeithasol.

Bydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn parhau i godi proffil ymchwil yng Nghymru drwy arddangos effeithiau ymchwil, meithrin a chryfhau partneriaethau ar draws sectorau, a pharhau i integreiddio cynnwys a chyfranogiad cyhoeddus ystyrlon gyda chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn golwg.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal, yr Athro Kieran Walshe,

Yn fyr, mae ymchwil yn bwysig. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r rôl hollbwysig y mae ymchwil a gweithwyr proffesiynol ymchwil yn ei chwarae wrth gadw pobl yn iach wedi dod yn fwy amlwg. Wrth gyflawni’r cynllun hwn, byddwn yn parhau i feithrin cydberthnasau a chydweithio â chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru, y GIG ac ym maes gofal cymdeithasol i ddatblygu strategaethau effeithiol y gellir eu cyflawni ar gyfer ymchwil, byddwn yn manteisio i’r eithaf ar gyllid a chymorth ymchwil, ac yn cefnogi ac yn annog gyrfaoedd ymchwil—pob un â nod o wella iechyd a llesiant i gymunedau yng Nghymru.”