pound symbol

Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cyhoeddi enwau enillwyr dros £5 miliwn o wobrau ariannol am 2019-20

8 Hydref

Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cyhoeddi enwau enillwyr dros £5 miliwn o wobrau ariannol am 2019-20

Mae’n bleser gennym gyhoeddi enwau’r rhai sydd yn derbyn ein gwobrau ariannol am 2019-20. Yn 2019-20, cynhaliodd tïm grantiau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ymgyrch a arweiniodd at 30 o wobrau ariannol newydd sydd gyda’i gilydd a thros gyfnod o amser yn werth dros £5.16 miliwn.

Mae pob cynllun grant yn cynnig math gwahanol o gefnogaeth neu yn cwrdd ag angen ymchwil penodol. Er enghraifft, mae gwobr Ymchwil er Budd Cleifion a’r Cyhoedd yng Nghymru yn ariannu gwaith ymchwil  a fydd yn hyrwyddo ymarfer dydd i ddydd y gwasanaeth iechyd, tra bod Grantiau’r Cynllun Ariannu Ymchwil: Gofal Cymdeithasol yn cefnogi prosiectau ymchwil o ansawdd uchel sydd yn berthnasol i anghenion iechyd a llesiant ac yn trefnu a darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae gwobrau’r flwyddyn hon yn ymestyn dros ystod eang o faterion, o wrthsafiad gwrth-feicrobial i’r gwahaniaeth a wnaiff gwyliau byr i fywydau y rhai sydd yn byw gyda dementia a’r bobl sydd yn gofalu amdanynt.

Rydym hefyd yn falch o gael ariannu gwobr Uwch Gymrawd yn dilyn cais lwyddiannus i Raglen Cymrodyr Sefydliad Cenedlaethol Ymchwil Iechyd  Iechyd (NIHR) gan Uwch Ddarlithydd Clinigol a Meddyg Teulu sydd yn gweithio yng Nghymru, sef Dr Harry Ahmed.

Dyma eiriau Michael Bowdery, Pennaeth Rhaglenni, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

“Roedd safon y ceisiadau yn uchel iawn eleni. Rydym yn falch o allu cynnig amrywiaeth o wobrau a bydd pob un ohonynt  yn darparu tystiolaeth ddefnyddiol ar draws ystod eang o feysydd blaenoriaeth o fewn iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd buddsoddi yn y gwaith ymchwil hwn, a’r ymchwilwyr eu hunain, yn hyrwyddo iechyd a ffyniant yng Nghymru.”

Isod, gallwch ddarllen rhagor am y gwobrau ariannol a’r sawl sydd yn eu derbyn. 

 

Cymrodoriaethau Ymchwil Iechyd

Rhoi i unigolion talentog y gefnogaeth y maent ei hangen i ddod yn ymchwilwyr annibynnol trwy arwain a chyflawni gwaith ymchwil o ansawdd uchel mewn gofal iechyd.

 Ceri Battle, Bwrdd Iechyd Bae Abertawe

Astudiaeth Co-PaCT: Datblygu canllawiau a luniwyd ar y cyd ar gyfer gofal cleifion gyda Trawma ‘blunt Chest wall’: astudiaeth o ddulliau cymysg.

 Emily Holmes, Prifysgol Bangor  

Economeg Diagnosteg Cyflym i Leihau Rhagnodi Gwrthfiotegau o fewn GIG Cymru.

 Amy Mizen, Prifysgol Abertawe (cychwyn hwyr  – 1 Mehefin 2021)          

Canfod pa nodweddion (y gellir eu haddasu) yn yr amgylchedd adeiledig sydd yn cefnogi iechyd a llesiant da mewn glasoed.

 Wioleta Zelek, Prifysgol Caerdydd    

Dylunio cyffuriau ar gyfer atal Membrane Attack Complex (MAC) mewn afiechydon llidiol cyffredin

 

Cynllun Ariannu Ymchwil: Grantiau Gofal Cymdeithasol

Yn cefnogi prosiectau ymchwil o ansawdd uchel sydd yn wir berthnasol i anghenion iechyd a llesiant a/neu i drefnu a darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Cindy Corliss, Prifysgol Caerdydd

‘Selffis, Snapsgwrs a Chadw’n Ddiogel: Sut mae plant dan ofal yn ymddwyn ar-lein?’ Archwiliad yn defnyddio gwahanol ddulliau. 

Clive Diaz, Prifysgol Caerdydd

Deall gweithrediad polisi gofal cymdeithasol plant yng Nghymru: astudiaeth o’r canllawiau newydd ar gyfer camfanteisio’n rhywiol ar blant. 

Helen Hodges, Prifysgol Caerdydd

Plant dan ofal yn y system cyfiawnder ieuenctid: Astudiaeth dichonoldeb gan ddefnyddio dulliau amrywiol.

Joe Hollinghurst, Prifysgol Abertawe

Sut mae’r amgylchedd yn y cartref ac o’i gwmpas yn dylanwadu ar ddeilliannau iechyd a gofal cymdeithasol mewn pobl hŷn?

 Nina Maxwell, Prifysgol Caerdydd

Llinellau sirol: ymateb cymunedol cydweithredol yng Nghymru i gamfanteisio’n droseddol ar blant.

 Gill Toms, Prifysgol Bangor

Gwyliau byrion i bobl sy’n byw gyda dementia a’r rhai sydd yn gofalu amdanynt: archwilio deilliannau llesiant a hyrwyddo datblygiad ymarfer yn y dyfodol trwy ddefnyddio agwedd Buddion Cymdeithasol ar Fuddsoddiad..

 Nell Warner, Prifysgol Caerdydd

Plant mewn cartrefi lle ceir camddefnyddio sylweddau, trais neu broblemau iechyd meddwl: Pwy sydd mewn perygl o gael eu rhoi mewn gofal?

 

Ymchwil er Budd Cleifion a’r Cyhoedd (RfPPB) yng Nghymru

 Yn ariannu gwaith ymchwil perthnasol i ymarfer dydd i ddydd y gwasanaeth iechyd sydd yn arddangos buddiannau  amlwg i’r claf ac i’r cyhoedd..

 David Bosanquet, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

PERCEIVE: yn rhagweld risg ac yn trafod materion a ddaw o ganlyniad i dorri prif gymal yn rhan isaf y corff – astudiaeth ar y cyd. (PrEdiction of Risk and Communication of outcomE followIng major lower limb amputation- a collaboratiVE study)

  Joanne Goss, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Treialu gyda rheolaeth ac asesu effeithiolrwydd cymorth clyw (gosodiad ymyrraeth) o gymharu gyda chymorth clyw (gosodiad placebo) i leihau tinnitus mewn oedolion gyda pheth nam ar y clyw

Gillian Richardson, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Profiadau Iechyd Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid: pa mor lwyddiannus y caiff anghenion cyfathrebu eu cwrdd? (HEAR 2)

 Barbara Ryan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

O’r Ysbyty i’r Gymuned: adnabod gwerth optometryddion o fewn gofal sylfaenol, yn monitro ac yn rheoli afiechydon cronig sy’n peryglu golwg.

 Gregory Taylor, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Treial ‘ExtraPeritoneal End Colostomy’ (ExPECT) : cyfnod dichonoldeb                                          

  Jared Torkington, Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a’r Fro

Ymestyn Treial Adnewyddu’r Abdomen: Dilyniant hirdymor trwy ddata arferol (exHART-FURD)

 

 Gwobrau Amser Ymchwil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol

 Yn ariannu amser sesiynnol fel y gall staff GIG talentog ymgymryd â gweithgareddau ymchwil a datblygu.

 David Bosanquet, Bwrdd Iechyd Prifysgol  Aneurin Bevan

 Kieran Foley, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre

 Lynette James, Bwrdd Iechyd Prifysgol  Caerdydd a’r Fro

 Pasquale Inomminato, Bwrdd Iechyd Prifysgol  Betsi Cadwaladr

 Eiriini Skiadaresi, Bwrdd Iechyd Prifysgol  Hywel Dda

 Chris Subbe, Bwrdd Iechyd Prifysgol  Betsi Cadwaladr

 

 Uwch Gymrodoriaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru / Sefydliad Cenedlaethol Ymchwil Iechyd (NIHR)

Yn cefnogi unigolion ar eu taith i ddod yn arweinwyr maes ymchwil yn y dyfodol. Mae  Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn gyfrifol am ariannu a rheoli ceisiadau llwyddiannus i Raglen Cymrodoriaeth Sefydliad Cenedlaethol Ymchwil Iechyd.

 Harry Ahmed, Prifysgol Caerdydd

Triniaeth gwrthfiotig a gwaedu eang mewn defnyddwyr moddion gwrthgeulo: dadansoddi data cofnodion iechyd er mwyn sicrhau dulliau mwy diogel o fonitro a rhagnodi.

 

Ysgoloriaethau Ymchwil Iechyd PhD

 Trwy gefnogi creu capasiti mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol ac ariannu prosiectau ymchwil ansawdd uchel, mae’r ysgoloriaeth ymchwil yn cynnig cyfle i unigolion talentog ymgymryd ag ymchwil ac astudiaethau fydd yn arwain at PhD.

 Otar Alkanyeti, Prifysgol Aberystwyth

Asesiad Awtomatig o Nam Cerddediad ac Adfer mewn Strôc. 

Alison Bullock, Prifysgol Caerdydd

Dylanwad technoleg symudol mewn ysbytai ar reolaeth gofal cleifion ac ymarfer clinigol.

 James Cronin, Prifysgol Abertawe

Ailbwrpasu cyffuriau a gymeradwyir er mwyn targedu ystwythder metabolaidd ym microamgylchedd y tiwmor mewn celloedd canser yr ofari.

Chris Pugh, Prifysgol Caerdydd

Effeithiau annibynnol a chyfunol ymarfer a therapi statin er atal afiechydon cardiofasgwlaidd.

 Richard Stanton, Prifysgol Caerdydd

Ymatebion Imiwnedd Modylaidd er Rheoli Heintiau Firws.   

Caleb Webber, Prifysgol Caerdydd

Haenu cleifion Parkinson ffenotypig gydag arwyddion imiwnedd yn y gwaed.