Ymchwil newydd a allai helpu i ragweld y risg o strôc yn y dyfodol
21 Mehefin
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi derbyn cyllid Grant Prosiect gan y Gymdeithas Strôc i gynnal ymchwil sy'n ceisio rhoi cipolwg allweddol ar atal a thrin strôc ar ôl 'strôc fach' gyntaf claf.
Bydd yr astudiaeth, a elwir yn PREDICT-EV, yn profi biofarcwyr newydd mewn cleifion sy'n dioddef 'strôc fach', a elwir hefyd yn Bwl o Isgemig Dros Dro (TIA). Bydd yr ymchwil yn cael ei gynnal mewn cydweithrediad â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (CTMUHB), lle bydd cleifion yn cael eu sgrinio am lefelau fesiclau microsgopig yn y gwaed, ac os ydynt yn bresennol mewn niferoedd mawr gall olygu bod risg sylweddol o geulo gwaed mewn rhai cleifion.
Bob blwyddyn, mae 46,000 o bobl Prydain yn dioddef eu 'strôc fach' gyntaf, sy'n atal dros dro gyflenwad gwaed llawn ocsigen i'r ymennydd. Mae cleifion yn dangos arwyddion strôc arferol, sef y rhai a nodir gan yr ymgyrch FAST sy’n datrys eu hunain yn gyflym iawn ac sy'n aml yn cael eu hanwybyddu. Er gwaethaf y driniaeth gyfredol orau, mae unigolion bedair gwaith yn fwy tebygol o ddioddef strôc fawr yn ystod y 12 mis canlynol, oherwydd eu risg gynyddol o ffurfio ceuladau gwaed newydd a all achosi niwed parhaol i'r ymennydd. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw ffordd gadarn o ragweld pa gleifion sydd â mwy o risg.
Dywedodd Jayne Goodwin, Pennaeth Cenedlaethol Cyflawni Ymchwil yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: "Mae hyn yn newyddion gwych i dîm PREDICT-EV ac arian i'w groesawu'n fawr gan y Gymdeithas Strôc. Rydym yn falch iawn o gefnogi ein partneriaid ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd wrth iddynt weithio ar ddealltwriaeth mor allweddol o atal a thrin strôc."
Dywedodd yr Athro John Geen, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ymchwil a Datblygu yn CTMUHB: "Rydym yn gyffrous iawn i fod yn bartner clinigol a darparwr y cymorth cyflawni ar gyfer yr astudiaeth ymchwil ansawdd uchel hon. Mae tîm Ymchwil a Datblygu CTMUHB, y Labordy Clinigol a’r Meddyg Strôc Dr James White wedi gweithio'n agos gyda'r Athro Metaboledd Cardiofasgwlaidd, Philip James a'i dîm ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd i ddylunio a datblygu'r astudiaeth. Amlygodd aelodau'r tîm bwysigrwydd yr astudiaeth beilot cyfnod cynnar a oedd yn darparu data cynnar a mewnwelediad amhrisiadwy sydd wedi helpu i lywio ac esblygu'r llwybrau sydd eu hangen i sicrhau'r recriwtio gorau posibl, dilyniant cleifion a dyluniad yr astudiaeth fwy arfaethedig, gyda chefnogaeth cyllid y Gymdeithas Strôc.
Mae'r astudiaeth yn enghraifft wych o’r byd academaidd, y GIG a phartneriaid yn y trydydd sector, yn cydweithio, yn rhannu adnoddau ac amcanion strategol cyffredin i ymgymryd ag ymchwil sydd â'r potensial i gael effaith ar ofal cleifion a bod o fudd i boblogaeth Cymru a thu hwnt."
Bydd y cyllid o £250,000 gan y Gymdeithas Strôc yn galluogi ymchwilwyr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd a CTMUHB, i ehangu recriwtio ymhellach a dilyn cleifion dros amser, i benderfynu a yw mwy o fesiclau a cheulo wedi'i newid yn amlwg mewn cleifion sy'n mynd ymlaen i gael strôc lawn.
Cafwyd cefnogaeth drwy gydol y prosiect gan Hwb Strôc Cymru a Grŵp Gweithredu Strôc Llywodraeth Cymru.