Helpwch i lywio ymchwil sydd â’r nod o atal heintiau wrin ar ôl gweithgaredd rhywiol

Helpwch ymchwilwyr i ddeall a all dewisiadau amgen i wrthfiotigau atal heintiau wrin aml ar ôl gweithgaredd rhywiol.

Mae heintiau wrin yn gyffredin iawn mewn menywod. Mae rhai menywod yn cael heintiau wrin rheolaidd wedi'u sbarduno gan weithgaredd rhywiol.  Gall hyn effeithio'n sylweddol ar eu bywydau bob dydd a'u perthnasoedd. 

Ar hyn o bryd, mae'r rhan fwyaf o fenywod sydd â heintiau wrin wedi'u sbarduno gan ryw yn cael cyngor am hylendid neu i fynd i’r toiled ar ôl rhyw, i geisio atal heintiau. Efallai y bydd rhai menywod yn cael un dos o wrthfiotigau wedi’i ragnodi i'w defnyddio yn syth ar ôl rhyw, neu wrthfiotigau hirdymor i'w defnyddio bob dydd, i geisio atal haint. 

Fodd bynnag, mae pryder cynyddol bod rhai heintiau yn gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau, sy'n golygu nad yw'r meddyginiaethau bellach yn effeithiol. Oherwydd hyn, mae'n bwysig dod o hyd i ffyrdd amgen o atal heintiau a lleihau'r risg y bydd gwrthfiotigau yn colli eu heffeithiolrwydd. Yn yr ymchwil hon, byddwn yn asesu pa mor effeithiol yw tri math o feddyginiaeth wahanol nad ydynt yn wrthfiotigau wrth atal heintiau wrin wedi’u sbarduno gan weithgaredd rhywiol.

Pa brofiad sydd ei angen arnaf i helpu?
  • Menywod neu bobl a ddynodwyd yn fenywod ar adeg eu geni, sydd wedi profi heintiau’r llwybr wrinol rheolaidd ar ôl gweithgaredd rhywiol 
Beth fydd gofyn i mi ei wneud?
  • Byddwch yn cael eich gwahodd i fynychu cyfarfodydd ar-lein bob tair i bedair wythnos am awr, lle byddwch yn rhannu eich profiad, yn adolygu ceisiadau am brosiectau ac yn rhoi adborth.
  • Cyn pob cyfarfod, efallai y bydd angen i chi adolygu dogfennau.
Pa mor hir fydd fy angen?
  • Bydd cyfarfodydd bob tair i bedair wythnos i gefnogi datblygiad yr astudiaeth.
  • Os caiff ei ariannu, bydd cyfle i gefnogi'r astudiaeth yn y tymor hwy a all gynnwys cyfarfodydd tua bob tri mis.
Beth yw rhai o'r buddion i mi?
  • Gallech helpu i lunio ymchwil yn y maes hwn a gwella triniaeth yn y dyfodol
  • Helpu i wneud yn siŵr bod llais y cyhoedd yn cael ei glywed
  • Cyfrannu at newid ystyrlon i bobl sy'n byw gyda heintiau’r llwybr wrinol rheolaidd
Pa gefnogaeth sydd ar gael?
  • Talu costau teithio rhesymol a chostau gofalwr neu ofal plant ychwanegol,
  • Cynnig taliad am amser o £25.00 yr awr (gall pobl ofyn am lai os ydynt yn derbyn budd-daliadau'r wladwriaeth).
  • Byddwch yn derbyn cefnogaeth gan y tîm astudio

Edrychwch ar ein canllawiau i gael mwy o wybodaeth am hyn. 

Os ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau, gallwch gael cyngor cyfrinachol gan y Gwasanaeth Cyngor ar Fudd-daliadau wrth helpu ag Ymchwil.

Cwblhewch y ffurflen isod

Sut wnaethoch chi glywed am y cyfle hwn?
Os cyfryngau cymdeithasol, pa sianel?
Rydw i wedi darllen a chytuno i’r cytundeb cynnwys y cyhoedd
Datganiad GDPR

Bydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n defnyddio’r wybodaeth bersonol rydych chi’n ei darparu er mwyn i ni berfformio’r dasg rydych chi’n darparu’r wybodaeth ar ei chyfer yn unig. Dilynwch y ddolen i’n Polisi Preifatrwydd a thicio isod i ddangos eich bod yn cytuno i ni fwrw ymlaen â’r dasg:Rydw i’n cytuno

Dyddiad cau:

Lleoliad:
Ar-Lein

Sefydliad Lletyol:
Prifysgol Caerdydd

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cyfle hwn

Cysylltwch â'r tîm