Dr Frank Atherton

Ymchwil yn ganolog i ddatrys effeithiau COFID-19 yng Nghymru.

5 Chwefror

Rydym yn ymwybodol bod 2020 wedi bod yn flwyddyn wahanol i unrhyw un arall, a bod ymchwil wedi bod yn hanfodol er mwyn ymdrïn â’r heriau a ddaeth yn sgil pandemig COFID-19. Mae argraffiad arbennig o adroddiad blynyddol Prif Swyddog Meddygol (PSM) Cymru 2019 – 2020 yn tanlinellu’r modd y mae ymchwil wedi bod yn flaenoriaeth allweddol yng Nghymru er mwyn ein helpu i ganfod beth fydd yn arwain at well canlyniadau i ddioddefwyr.

Gan ddefnyddio enghreifftiau o ymchwil chwildroadol a bob rhan o Gymru, mae Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru, yn trafod sut mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a chymuned ymchwil ehangach Cymru wedi bod yn weithredol o ran hyrwyddo a chefnogi ymgyrch ymchwil gydlynol ledled y DU  mewn ymateb i’r pandemig, yn ogystal â bod yn rhan amlwg o dasglu brechu’r DU.

Trwy gyfrwng yr adroddiad, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y rhan hanfodol mae ymchwil yn ei chwarae er mwyn canfod triniaethau a brechiadau newydd ar gyfer COFID-19. Mae’n egluro bod astudiaethau ymchwil, megis PRINCIPLE, REMAP-CAP a RECOVERY, wedi cyfrannu tuag at wella graddfa goroesi mewn nifer o gleifion gyda COFID-19.

Dyma eiriau’r Dr Atherton: “Mae ymchwil yn hanfodol er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i ddefnyddio’r dystiolaeth orau sydd ar gael i fynd i’r afael ag effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol COFID-19, a gwneud yn siwr ein bod yn gallu gwneud y penderfyniadau gorau ar gyfer iechyd a llesiant pobl Cymru.

“ Gydol y pandemig, rydym wedi parhau i ddysgu ynghylch COFID-19 a’i effeithiau. Fodd bynnag, mae yna lawer mwy i’w ddarganfod eto.”

Yn yr adroddiad, mae’r PSM yn argymell ymchwil parhaus i daclo a monitro effeithiau tymor hir - uniongyrchol ac anuniongyrchol – COFID-19. Ei gyngor ef yw bod Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, y gymuned ymchwil, prifysgolion a phartneriaid yn parhau i gydweithio mewn ymdrech i geisio ateb y cwestiynau pwysicaf fel y gallwn gynllunio ffordd ymlaen fydd yn diogelu ein iechyd ni heddiw a iechyd cenedlaethau’r dyfodol.

Dyma sylwadau’r Athro Kieran Walshe “Gydol y pandemig, tanlinellir y ffaith bod manteision ymchwil iechyd a gofal yn enfawr; yn awr mae angen i ni ganolbwyntio’n uniongyrchol ar ddod ag ymchwil o bob rhan o’r byd at ei gilydd er mwyn datrys heriau hirdymor COFID-19.”

"Bydd Canolfan Tystiolaeth COFID-19 Cymru yn galluogi tystiolaeth ymchwil i gael ei dosbarthu’n gyflym ac yn rhwydd rhwng Llywodraeth Cymru, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gofal iechyd, er mwyn helpu i sicrhau mai ar sail tystiolaeth y gwneir penderfyniadau allweddol.”

Os am ddarllen yr adroddiad llawn, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.