Saffron ar y traeth

Ymchwil yn rhoi cinio Nadolig yn anrheg i blant a'u teuluoedd

21 Rhagfyr

Mae mam o sir Caerffili yn dweud bod ei merch ifanc bellach yn gallu mwynhau yr un cinio Nadolig â gweddill ei theulu oherwydd ymchwil arloesol.

Mae gan Saffron, sy’n 9 mlwydd oed, Syndrom Charge* ac mae angen tiwb bwydo arni, ond roedd y fformiwla llaeth masnachol safonol yn ei gwneud hi'n sâl iawn.

"Mae'n ofnadwy bwydo rhywbeth i'ch plentyn yr ydych chi’n credu sy’n ei gwneud hi’n sâl," meddai Julia Rowe, sy'n 44 oed, o bentref Machen.

"Roeddwn i'n gwybod bod y llaeth yn anghywir, roedd y fformiwla'n anghywir, a dydw i ddim yn credu fel mam y byddech chi'n bwydo rhywbeth i’ch plentyn na fyddech chi'n ei fwyta eich hun.

"Roedd hi’n cael ei bwydo'n barhaus am 18 awr y dydd, felly roedd hi bob amser yn gaeth i beiriant. Roedd ganddi ddolur rhydd cronig a salwch, ac roedd yn teimlo'n gyfoglyd drwy'r amser. Roedd ganddi broblemau hefyd gyda phethau fel gwallt tenau iawn ac nid oedd ganddi unrhyw ewinedd ar ei bysedd."

Ond diolch i ymchwil i'r defnydd o ddeiet wedi’i hylifo yn y cartref, mae Saffron bellach yn llawer iachach ac yn gallu byw bywyd mwy egnïol.

"Fe wnaethom ni drosglwyddo i'r deiet wedi’i hylifo dros gyfnod o fis a bron ar unwaith roedd hi'n well," ychwanegodd Julia.

"Roedd yn syfrdanol ei gwylio. Byddai'n dda gen i pe byddai mwy o egni wedi bod gen i i wneud dyddiadur fideo o’r cyfnod oherwydd roedd yn newid enfawr ar unwaith.

"Mae llawer o bobl yn meddwl bod deiet wedi’i hylifo yn ymwneud ag afocados ac nid yw hynny'n wir. Deiet wedi’i hylifo yw hylifo pryd o fwyd fel ei fod yn mynd drwy'r tiwb bwydo. Dyna lle mae cinio Nadolig yn braf. Rydych chi'n helpu eich hun i blât o fwyd ar gyfer Saffron ac yna'n ei roi yn y cymysgydd.

"Mae'n wych achos mae hi'n gwybod ei bod hi wedi cael yr hyn mae pawb arall yn ei gael – ac ar yr un pryd hefyd."

Cynhaliwyd yr ymchwil – a ariannwyd yn rhannol gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – gan Sian Thomas, Nyrs Ymgynghorol mewn Iechyd Plant ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

"Roeddem ni’n clywed bod mwy a mwy o deuluoedd yn dechrau defnyddio deiet wedi’i hylifo, yn enwedig ar gyfer plant â niwro-anableddau, ac eto er gwaethaf y cynnydd yn y defnydd, nid oedd unrhyw ymchwil ar gael ynghylch manteision pheryglon hyn," meddai Sian.

"Pan gysylltodd rhiant â mi a oedd eisoes yn defnyddio deiet wedi’i hylifo ond roedd angen cymorth i barhau i wneud hyn, roeddwn i'n gwybod bod angen ymchwiliad cadarn i sicrhau y gallem ni ddarparu arweiniad proffesiynol clir."

Canfu ymchwil Sian:

  • roedd episodau o chwydu yn llawer is i blant ar ddeiet wedi’i hylifo o gymharu â'r rhai ar ddeiet masnachol
  • dim cynnydd mewn cymhlethdodau mewn rhwystrau tiwbiau na chyfraddau heintio
  • gwelliant yn hwyliau ac ymddygiad y plentyn, ennill pwysau, a goddef meddyginiaeth yn well a arweiniodd at leihad mewn confylsiynau a derbyniadau i'r ysbyty

O ganlyniad i ganfyddiadau'r ymchwil, mae Cymdeithas Ddeieteg Prydain bellach wedi newid ei pholisi ar ddeiet wedi’i hylifo. Mae hefyd yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru ac mae wedi'i fabwysiadu gan bob un o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru. 

"Yn bwysicaf oll, fodd bynnag, mae'r gwaith wedi grymuso cleifion a'u teuluoedd, ac wedi gwella ansawdd eu bywydau," ychwanegodd Sian. "Maen nhw'n gallu bwyta yr un bwyd, cymdeithasu a chael cymorth gan weithwyr proffesiynol i wneud dewis."

Mae teulu Saffron wedi gweld newidiadau mawr ers newid i ddeiet wedi’i hylifo ac maen nhw'n ddiolchgar am gael cefnogaeth ymchwil Sian.

"Mae'n golygu bod gennym fwy o siawns o fywyd teuluol normal, hapus", meddai Julia. "Er bod Saffron yn fach iawn o hyd, mae'n edrych yn iach iawn ac mae hi'n mynychu'r ysgol. Dydy hi byth yn absennol o’r ysgol.

"Mae'n rhyddhad enfawr cael rhywun ar eich ochr chi pan fyddwch chi'n ceisio gwneud rhywbeth gwahanol. Rwy'n teimlo mor angerddol am y peth felly pan ddechreuodd Sian wneud ei hymchwil a ffurfioli pethau, a'm gwahodd i ddod i siarad â dietegwyr, roedd yn wych oherwydd rwy'n gwybod ei fod wedi gweithio i gynifer o bobl.

"O’r blaen, roedd hi'n anodd iawn mynd allan oherwydd roedd yn rhaid i chi fynd â'r holl offer yma gyda chi. Nawr os byddaf i’n mynd allan am y diwrnod gyda Saffron, rwy'n trefnu fel y mae unrhyw fam arall yn ei wneud ac rwy'n hylifo ei phecyn cinio a'i byrbrydau am y diwrnod a'i roi mewn bocs bwyd ac i ffwrdd â ni.

"Felly, rydym ni'n gallu symud o gwmpas llawer mwy ac mae'n golygu y gallwch chi fynd i wersylla a gallwch chi fynd i Barcelona a lleoedd heb orfod mynd â llond cês o offer, sy'n ryddid mawr."

Dywedodd yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

"Stori Saffron yw'r rheswm pam rydym ni'n gwneud ymchwil. Mae clywed sut y gall Saffron nawr fwynhau bywyd mwy egnïol gyda'i theulu, rhannu'r un prydau bwyd a mynd i'r ysgol, yn bleser – ac mae hynny i gyd yn bosib oherwydd ymchwil.

"Ein nod bob amser yw gwella bywydau cleifion, pobl a chymunedau yng Nghymru. Drwy ymchwil iechyd a gofal, gallwn wneud gwahaniaeth go iawn."

Dywedodd Jeanette Wells, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ymchwil a Datblygu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:

“Nid oedd sefyllfa Julia a Saffron yn unigryw ac rwy’n canmol Sian Thomas, Nyrs Ymgynghorol am wrando ar deuluoedd a nodi’r angen am ymchwil i beryglon a manteision deiet wedi’i hylifo.

“Gallaf siarad ar ran yr holl dîm ymchwil a datblygu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wrth ddweud ein bod yn falch iawn o fod wedi gallu bod yn rhan o’r prosiect hwn sy'n newid bywydau.

“Er mwyn i ymchwil fod o fudd gwirioneddol i gleifion, rhaid iddi fod yn effeithiol a rhaid iddi newid polisi ac ymarfer. Mae'r ymchwil hon wedi gwneud hyn a dymunwn Nadolig hapus iawn i Julia a Saffron, a phob plentyn arall sy'n manteisio ar ddeiet wedi’i hylifo."

 


*Mae rhagor o wybodaeth am Syndrom Charge ar gael ar wefan Sense.