panel discussion

#YmchwilCymru20: Ein cynhadledd ddigidol gyntaf yn cyrraedd y gynulleidfa fwyaf erioed

16 Hydref

Mynychodd tua 500 o gynrychiolwyr ein cynhadledd ar-lein gyntaf erioed ar 7 Hydref – gan sicrhau mai hon oedd y fwyaf a’r orau hyd yma!

Gwnaeth y rheini a fynychodd y gynhadledd – Yn gwneud gwahaniaeth: effaith ymchwil iechyd a gofal – fwynhau rhaglen llawn dop a oedd yn edrych ar themâu diwylliant a chapasiti ymchwil, arfer polisi, a mwy.

Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru, agorodd y gynhadledd, gan ganmol gwaith caled y gymuned ymchwil iechyd a gofal, yn enwedig dan amgylchiadau anodd.

“Dydy ymchwil erioed wedi bod mor bwysig i sbarduno’r newid sydd ei angen arnon ni – ond mae angen i ni fod yn well am rannu arfer da a syniadau newydd ar draws lleoliadau gofal sylfaenol ac eilaidd.

“Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n ariannu gweithlu helaeth, llawer ohonyn nhw’n gweithio ar y rheng flaen ac yn chwarae rôl hanfodol yn cyflenwi ymchwil, yn cynnig triniaethau newydd ac yn gwerthuso gwasanaethau. Rydw i’n falch o ymroddiad ac ymrwymiad fy nghydweithwyr GIG yn ystod yr ymdrech ymchwil i COVID-19.”

Rhwng y sesiynau llawn, roedd croeso i’r mynychwyr wylio dros 60 o gyflwyniadau gwahanol o ledled y DU a oedd yn arddangos ymchwil iechyd a gofal anhygoel. Roedd cyfle hefyd i ymweld â 15 o stondinau arddangos rhithwir, a oedd wedi’u creu gan ein cymuned ymchwil. Cafwyd pobl yn pleidleisio gydol y dydd am yr arddangosfa rithwir orau a’r cyflwyniad gorau.

Yn yr wythnos cyn y gynhadledd, cynhaliwyd pum gweithdy cyffrous ac ymarferol ar-lein i’r mynychwyr. Cafodd y rheini a fynychodd gyfle i drafod a dadlau ynglŷn â’r gwersi sydd wedi’u dysgu yn sgil COVID-19, cyfeiriadau ymchwil gwasanaethau iechyd yn y dyfodol yng Nghymru, gosod agenda ar gyfer materion iechyd cyhoeddus a mwy.

Ar ddiwedd y dydd, cyhoeddwyd enwau enillwyr y ddwy wobr, am yr arddangosfa rithwir orau a’r cyflwyniad gorau. Cyhoeddwyd enillydd Gwobr Cyflawniad Cynnwys y Cyhoedd eleni hefyd. Roedd panel yn beirniadu pob cynnig am y wobr hon, a gallwch chi weld pob un o’r cynigion a roddwyd ar y rhestr fer mewn fideos ar wefan ein cynhadledd.

Llongyfarchiadau i:

Cynhaliodd y mynychwyr eu trafodaethau arferol yn ystod egwyl te ar fforwm y gynhadledd, ac roedd mwy nag erioed yn ymgysylltu ar Twitter:

“Mae’r gynhadledd rithwir gan @YmchwilCymru wedi rhoi mewnwelediad gwych i’r dirwedd ymchwil gyfredol yng Nghymru” - @CarwynBridges

“Mae #YmchwilCymru20...wedi bod yn brofiad swrreal ond yn un sy’n dangos ymroddiad llwyr @YmchwilCymru i beidio â gadael i unrhyw beth fyth sefyll yn ffordd cynhadledd flynyddol lwyddiannus a diddorol, yn sicr ddim pandemig byd-eang!” - @kai1091

Ar y diwrnod, fe lansiwyd hefyd ddau adroddiad newydd – y naill yn dangos effaith Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar driniaeth a gofal cleifion yng Nghymru, a’r llall yn dangos yr effaith a gwerth economaidd a gynhyrchir trwy ymchwil iechyd, gan ddefnyddio data oddi wrth KPMG.

Peidiwch â phoeni os wnaethoch chi fethu rhywfaint o’r cyffro – gallwch chi weld y sesiynau llawn, y gweithdai a’r cyflwyniadau o’r diwrnod i gyd ar wefan ein cynhadledd. Gallwch chi hefyd weld gwybodaeth ar Twitter trwy chwilio am #YmchwilCymru20.