Ymchwilwyr Cymru’n cyfrannu at adolygiad y DU o wasanaethau iechyd a gofal ar gyfer pobl ag anableddau dysgu
26 Chwefror
Mae adolygiad diweddaraf ar thema y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR), Better Health and Care for All: health and care services for people with learning disabilities wedi’i gyhoeddi ar-lein.
Mae’r adolygiad yn tynnu ar ymchwil sy’n cael ei chynnal ledled y DU, gan gynnwys cyfraniadau gan ymchwilwyr Cymru.
Bu Ruth Northway, Athro Nyrsio Anabledd Dysgu ym Mhrifysgol De Cymru’n gweithio fel rhan o’r grŵp cynghori arbenigol ar gyfer yr adroddiad.
Tynnwyd tystiolaeth hefyd o astudiaeth dan arweiniad yr Athro Paul Willner, Prifysgol Abertawe, y bu nifer o ymchwilwyr Cymru hefyd yn gweithio arni. Mae’r erthygl cyfnodolyn yn archwilio gwaith darparu ymyriadau rheoli dicter i bobl ag anableddau deallusol.
Mae’r adolygiad hwn yn dwyn tystiolaeth at ei gilydd o 23 o astudiaethau wedi’u hariannu gan NIHR ac yn archwilio pedwar prif faes yn ymwneud â darparu gwasanaeth a phrofiad defnyddwyr: nodi risgiau iechyd; cadw’n iach yn y gymuned; cadw’n ddiogel ac yn iach yn yr ysbyty; a gwasanaethau sy’n cefnogi ymddygiad positif.
Y gobaith yw y bydd mewnwelediadau’r adolygiad yn helpu i ddangos meysydd y mae angen gwneud mwy o ymchwil ynddyn nhw i siapio gwasanaethau yn y dyfodol.