Dr Kim Smallman gyda chyfranogwr yn rhoi cynnig ar gogls VR yn nigwyddiad CTR

Ymchwilwyr o Gymru mewn astudiaeth arloesol Realiti Rhithwir i gefnogi pobl sy'n byw gyda gorbryder

22 Mai

Mae’r tîm ymchwil yn y Ganolfan Treialon Ymchwil, sy'n cael ei gynnal gan Brifysgol Caerdydd, wedi derbyn bron i £250,000 gan Innovate UK er mwyn ymchwilio i ddulliau newydd i helpu gydag iechyd meddwl pobl.

Mae’r Astudiaeth VR-Melody, dan arweiniad Dr Kim Smallman, Cydymaith Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd, yn cydweithio â Rescape Innovation a thîm amrywiol o arbenigwyr i archwilio sut y gall Deallusrwydd Artiffisial (DA) a cherddoriaeth wella ymgysylltiad â chynnwys therapiwtig.

Bydd y grant yn caniatáu i'r timau gyd-greu system Realiti Rhithwir wedi'i phersonoli gan ddefnyddio DA a cherddoriaeth i leihau pryder ac adeiladu gwydnwch meddyliol mewn oedolion.

Pwysleisiodd Dr Smallman bwysigrwydd atebion arloesol wrth fynd i'r afael â'r heriau iechyd meddwl cynyddol yn y DU a'r pwysau ar wasanaethau iechyd meddwl. 

Dywedodd:  "Mae'r cyllid hwn yn ein galluogi i weithio'n agos gyda phobl sydd â phrofiad byw o orbryder, a thrwy gyfres o weithdai a phrofion defnyddwyr, rydym yn gobeithio cyd-gynhyrchu ateb newydd i helpu i leihau symptomau pryder a helpu i feithrin gwydnwch.

"Bydd y tîm ymchwil yn ymchwilio i ddulliau newydd o helpu gydag iechyd meddwl pobl, sut y gellir defnyddio'r therapïau hyn a pha arloesi sydd ei angen i'w gyflawni ar raddfa."

Cafodd yr astudiaeth ei harddangos mewn digwyddiad diweddar a gynhaliwyd gan y Ganolfan Treialon Ymchwil gyda'i phartneriaid, a chafwyd adborth cadarnhaol.

Ewch i'r wefan i gel mwy o wybodaeth am yr astudiaeth.