Yr Athro Jeremy Guggenheim

Ymchwilwyr i ddatblygu prawf ar gyfer plant sydd fwyaf mewn perygl o fod yn fyr iawn eu golwg

20 Rhagfyr

Mae ymchwilwyr wedi’u hariannu gan Fight for Sight mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn datblygu prawf genetig i nodi pobl sy'n fyr iawn eu golwg (myopia uchel) sydd fwyaf mewn perygl o ddioddef niwed parhaol i’w golwg ac felly y byddai o fudd iddynt gael eu monitro'n amlach. Mae’n bosibl y bydd y prawf hefyd yn helpu i nodi plant sydd fwyaf mewn perygl o fod yn fyr iawn eu golwg.

Bydd y tîm o ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, dan arweiniad Yr Athro Jeremy Guggenheim, yn defnyddio gwybodaeth sy'n bodoli eisoes yn y 'UK Biobank' - astudiaeth sy'n ymchwilio i rôl geneteg a ffordd o fyw yn iechyd a lles 500,000 o ddinasyddion y DU - i archwilio pa enynnau a allai achosi tueddiad i fod yn fyr iawn eu golwg.

Ar hyn o bryd mae tua un o bob dau unigolyn yn y DU yn fyr ei olwg. Mae ymchwil ddiweddar wedi darganfod cannoedd o leoliadau ar y genom dynol a all wneud unigolyn yn fwy agored i fod yn fyr ei olwg. Fodd bynnag, nid yw'n glir ar hyn o bryd sut mae'r gwahaniaethau genetig hyn yn arwain at fwy o berygl bod pobl yn fyr eu golwg.

Er bod golwg aneglur fel arfer yn hawdd i'w gywiro gyda sbectol neu lensys cyffwrdd, mae pobl â myopia uchel mewn perygl o golli eu golwg gan fod y retina yn teneuo. Gall hefyd achosi glawcoma (difrod i'r nerf optig) a dirywiad macwlaidd myopig lle mae’r golwg canolog yn gwyro neu’n aneglur. Mae'r perygl hwn yn cynyddu pan fo’r myopia yn fwy dwys. Ystyrir bod gan unrhyw un sydd â lefel presgripsiwn o finws chwech neu is myopia uchel. O ganlyniad, pobl sy'n datblygu myopia yn gynnar yn ystod plentyndod, a’u cyflwr yn parhau i waethygu wrth iddynt fynd yn hŷn, sy’n wynebu'r perygl mwyaf.

Dywedodd yr Athro Jeremy Guggenheim:

"Ein nod ar gyfer y prosiect hwn yw nid yn unig penderfynu pa blant sydd mewn perygl o ddatblygu myopia uchel, ond hefyd i allu adnabod y rhai sydd mewn perygl uwch na'r cyfartaledd o glefyd y llygaid sy'n bygwth golwg. Bydd hyn yn ein helpu ni i nodi pobl y byddai o fudd iddynt gael eu monitro’n amlach i ganfod newidiadau cynnar, gan ein bod yn gwybod bod triniaeth gynnar yn gwella canlyniadau clinigol. Yn y tymor hirach, bydd yr ymchwil hon yn rhoi gwell dealltwriaeth i ni o'r mecanweithiau biolegol sy'n achosi myopia, a fydd yn helpu i ddatblygu  triniaethau newydd neu newidiadau mewn ffordd o fyw ar gyfer myopia sy'n fwy effeithiol na'r rhai sydd ar gael ar hyn o bryd."

Dywedodd Cyfarwyddwr Ymchwil Fight for Sight, Dr Neha Issar-Brown:

"Rydym ni’n falch iawn o fod yn bartner gydag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i ariannu'r astudiaeth ymchwil bwysig hon. Rydym ni’n gwybod, ym maes cyflyrau llygaid sy'n bygwth y golwg, fod canfod yn gynnar yn eithriadol o bwysig, a bydd datblygu prawf genetig i nodi plant sydd mewn mwy o berygl o fod yn fyr iawn eu golwg yn caniatáu ymyrraeth gynharach, ac yn ei dro yn arwain at well ganlyniadau i blant. Mae ymchwil llygaid yn bwysicach nag erioed yn oes pandemig Covid-19 ac mae'n rhaid i ni barhau i ariannu ymchwil ar gyfer profion, triniaethau a datrysiadau newydd a mwy effeithlon ar gyfer prif achosion dallineb a cholli golwg."

Dywedodd Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yr Athro Kieran Walshe:

"Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn falch iawn o gefnogi ymchwil sy'n cyd-fynd mor dda â'n cenhadaeth. Gallai'r ymchwil hon wir wneud gwahaniaeth i bolisi ac ymarfer a gallai helpu i wella ansawdd bywyd a gofal i bobl sydd mewn perygl o fod yn fyr iawn eu golwg."

Mae hwn yn brosiect tair blynedd ac mae’r ymchwilwyr yn gobeithio y bydd ganddynt brawf genetig wedi’i optimeiddio ar gyfer pobl sy’n fyr iawn eu golwg yn ystod y ddwy flynedd nesaf.