Nyrs ymchwil

Ymchwilwyr o gymru yn cyfrannu at astudiaeth COVID-19 sydd wedi dod o hyd i driniaeth gwrthgyrff sy'n achub bywydau

9 Gorffennaf

Mae'r treial Hapwerthusiad Therapi COVID-19 (RECOVERY), sy'n cael ei gynnal mewn saith bwrdd iechyd ledled Cymru, wedi dod o hyd i driniaeth newydd i leihau arhosiad mewn ysbytai a'r siawns y bydd angen peiriant anadlu ar gleifion COVID-19 sy’n ddifrifol wael.

Canfu'r astudiaeth fod triniaeth Regeneron, cyfuniad o ddau wrthgorff a gynhyrchir mewn labordy, yn niwtraleiddio gallu'r feirws i heintio celloedd mewn cleifion nad ydynt wedi datblygu ymateb imiwnedd i'r feirws. Dyrannwyd cleifion ar hap i dderbyn gofal arferol ynghyd â'r driniaeth cyfuniad gwrthgyrff neu ofal arferol yn unig. Gallai'r canfyddiadau baratoi'r ffordd i driniaeth gwrthgyrff monoclonol Regeneron gael ei chymeradwyo gan reoleiddwyr y DU a'i chyflwyno i'w defnyddio ar draws y GIG.

Recriwtiwyd cyfanswm o 1,255 o gleifion COVID-19 ledled Cymru i'r treial Recovery sydd wedi bod yn profi amrywiaeth o driniaethau posibl ar gyfer COVID-19 ledled y DU ers mis Mawrth 2020.

Dywedodd yr Athro Angharad Davies, Arweinydd Arbenigol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar gyfer Heintiau: "Mae hwn yn gam cyffrous arall ymlaen, y tro cyntaf y dangoswyd bod triniaeth wrthfeirysol yn achub bywydau cleifion COVID-19 mewn amgylchedd ysbyty.

"Rwy'n falch o'r ymchwilwyr ledled Cymru sydd wedi cydweithio yn rhan o'r ymdrech genedlaethol hon ac sydd wedi gallu chwarae rhan hollbwysig yn y canfyddiadau hyn.

"Dim ond un elfen o ymdrech ymchwil enfawr yw'r treialon clinigol sy'n datblygu brechlynnau, gan ddod o hyd i ffyrdd o drechu'r feirws hwn. Rydym yn dal i weld pobl yn cael eu heintio ac mae angen dod o hyd i fwy o driniaethau i leihau arosiadau mewn ysbytai ac achub bywydau'r rhai sydd fwyaf sâl."

Sefydlwyd RECOVERY, sy'n cael ei redeg gan Brifysgol Rhydychen, yng Nghymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, y sefydliad sy’n cydlynu'n genedlaethol yr holl ymchwil ac astudio COVID-19 a sefydlwyd yng Nghymru.

Dywedodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cefnogi a Chyflawni Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: "Mae hyn yn dangos y rhan hanfodol y mae'r gymuned ymchwil yng Nghymru yn ei chwarae yn yr ymdrech ledled y DU i ddod o hyd i driniaethau effeithiol i gleifion â COVID-19.

 "Mae'r treial RECOVERY yn un o nifer o astudiaethau iechyd cyhoeddus brys sy'n parhau ar draws y wlad i'n helpu i achub cymaint o fywydau â phosibl, wrth i ni ddysgu byw gyda'r feirws."

Ym mis Chwefror 2021 canfu RECOVERY fod cyffur gwrthlidiol a ddefnyddir i drin arthritis rhiwmatoid, tocilizumab, yn byrhau'r amser tan i gleifion gael eu rhyddhau'n llwyddiannus o'r ysbyty ac yn lleihau'r angen am beiriant anadlu mecanyddol, gan arbed 1 o bob 25 o gleifion sy'n ddifrifol wael.