Beicwyr yn cael eu dadansoddi

Ymchwilwyr o Gymru’n creu partneriaeth â seiclwyr elitaidd i astudio diabetes math 1

Mae ymchwilwyr Uned Ymchwil Diabetes Cymru (DRUC) wedi bod yn monitro’r gofynion llethol y mae grŵp unigryw o seiclwyr elitaidd yn eu dioddef, yn eu hymdrech i ddysgu mwy am diabetes.

Tîm Novo Nordisk ydy’r unig dîm seiclo proffesiynol yn y byd i gynnwys dim ond seiclwyr sydd â diabetes math 1. Dr Richard Bracken, arweinydd Uned Ymchwil Diabetes Cymru ar gyfer Ffisioleg Ymarfer Corff a Ffordd o Fyw, oedd yn arwain y tîm ymchwil a deithiodd i Sbaen i fonitro’r seiclwyr a sut roedd eu cyrff yn ymdopi â threulio hyd at saith awr bob dydd yn y cyfrwy, mewn gwersyll hyfforddi 10-diwrnod.

Bwriad yr ymchwilwyr nawr yw defnyddio canlyniadau’r astudiaeth i helpu pobl eraill sydd â diabetes sydd eisiau bod yn fwy corfforol egnïol.

Esboniodd Dr Bracken: “Mae Tîm Novo Nordisk yn cystadlu ar draws y byd ac yn hybu agwedd ‘gallaf wneud’ i unrhyw un â diabetes math 1.

“Roedden ni eisiau gwybod mwy am ffisioleg arbennig yr athletwyr elitaidd hyn i ddeall yn well eu hymateb i ymarfer corff eithafol a’r strategaethau roedden nhw’n eu defnyddio – pethau fel pa fwyd roedden nhw’n ei fwyta, faint o gwsg ac addasiadau i’w meddyginiaeth.”

Casglwyd data ar faeth, glwcos a ffisioleg yn ystod hyfforddiant dwys a phrotocolau trylwyr profion seiclo ar gyfer y tîm.

“Rydyn ni eisiau dod o hyd i gliwiau a fydd o bosibl yn rhoi mwy o hyder i’r gymuned gofal iechyd o ran annog y gymuned diabetes math 1 ehangach i wneud gweithgarwch corfforol”, meddai Dr Bracken.

Bydd y darganfyddiadau nawr yn chwarae rhan bwysig yn adeiladu gwell dealltwriaeth o’r cyflwr a bwriedir eu cyhoeddi mewn cyfnodolion gwyddonol diabetes blaenllaw.


Cyhoeddwyd gyntaf: @YmchwilCymru Rhyfin 6, Mehefin 2019