Dr Ben Mead a delwedd o gelloedd y retina

Ymchwilwyr yn edrych i weld a allai bôn-gelloedd mêr esgyrn atal y difrod y mae glawcoma’n ei achosi

12 Mawrth

Mae ymchwilwyr sydd wedi’u hariannu gan Fight for Sight, mewn partneriaeth â Glaucoma UK ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn gobeithio defnyddio bôn-gelloedd mêr esgyrn i atal pobl rhag colli eu golwg oherwydd glawcoma, a hynny heb drawsblaniad.

Mae’r elusen wedi cyhoeddi y bydd yn ariannu’r prosiect yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth o Glawcoma y Byd (7-13 Mawrth).

Mae yna 500,000 o bobl yn y DU â glawcoma, a dyma’r peth mwyaf ond un sy’n achosi dallineb yn y byd. Haen denau o feinwe yng nghefn y llygad ydy’r retina. Mae’n gyfrifol am drosi golau yn signalau niwral sy’n cael eu hanfon i’r ymennydd, gan ganiatáu i ni weld. Mae celloedd ganglion retinol (RGC) i’w gael ger arwyneb mewnol y retina. Un o nodweddion glawcoma yw colli’r celloedd hyn, sy’n arwain at golli golwg am byth.

Mae’r prosiect hwn yn digwydd ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ymchwilwyr yn y brifysgol wedi dangos yn y labordy bod trawsblannu bôn-gelloedd mêr esgyrn i fodel glawcoma yn gallu atal y celloedd hyn rhag marw ac, o ganlyniad, yn cadw golwg.

Mae’r bôn-gelloedd hyn yn cynhyrchu rhywbeth o’r enw ‘ecsosomau’, sef pecynnau sy’n cludo proteinau a gwybodaeth genetig rhwng celloedd. Nawr, mae ymchwilwyr eisiau gwahanu’r pecynnau ecsosomau hyn i atgynhyrchu buddion y bôn-gelloedd, heb fod angen trawsblannu.

Dr Ben Mead o Ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Golwg ym Mhrifysgol Caerdydd sy’n arwain yr ymchwil hon. Meddai: “Mae’r bôn-gelloedd mêr esgyrn hyn yn gweithredu fel ffatrïoedd bychain, sy’n secretu llawer o ffactorau positif sy’n ymddwyn fel cyfryngau gwarchodol ar gyfer celloedd ganglion retinol. Os y gallwn ni arwahanu’r pecynnau ecsosomau hyn ac atgynhyrchu’r un effeithiau therapiwtig heb fod angen trawsblannu, bydd hyn ddim yn unig yn ddull diogel o weithredu ond bydd hefyd yn fwy effeithiol gan y bydd modd defnyddio dognau uwch. Rydyn ni nawr yn gweithio i gymharu ecsosomau o wahanol fathau o fôn-gelloedd i ddarganfod pa fath ydy’r un mwyaf effeithiol ac sydd, felly, yn briodol ar gyfer profion clinigol.”

Meddai Prif Weithredwr Fight for Sight, Sherine Krause: “Rydyn wrth ein boddau gallu partneru ag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Glaucoma UK i ariannu’r prosiect ymchwil gwerthfawr hwn. Os y bydd yn llwyddiannus, mae’n bosibl y bydd yr ymchwil hon yn helpu i sicrhau deilliannau gwell i bobl ddi-rif sydd â glawcoma. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld canlyniadau astudiaeth Dr Mead.”

Meddai Pennaeth Rhaglenni yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Michael Bowdery: “Mae glawcoma yn broblem sylweddol i nifer fawr o bobl, felly rydyn ni’n falch iawn o allu gweithio gyda’n partneriaid i ariannu ymchwil a allai wneud cymaint o wahaniaeth.”

Meddai Prif Weithredwr Glaucoma UK, Karen Osborn: “Mae glawcoma yn glefyd cymhleth y llygaid. Nid oes unrhyw ffordd i’w wella ar hyn o bryd ac mae glawcoma yn achosi colli golwg am byth. Felly pleser o’r mwyaf ydy partneru â Fight for Sight ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i ariannu’r ymchwil bwysig hon sy’n archwilio’r posibilrwydd o ddefnyddio bôn-gelloedd mêr esgyrn i atal y difrod y mae glawcoma’n ei achosi. Rydyn ni’n aros yn awyddus am ganlyniadau astudiaeth Dr Ben Mead i weld a allai hyn fod yn ffordd ddichonol i drin cleifion â glawcoma heb fod angen trawsblannu. Heb haelioni ein cefnogwyr, ni fydden ni’n gallu ariannu ymchwil fel hon a allai gyffwrdd â bywydau miloedd o bobl sy’n byw â glawcoma.”