Dyfarniad Grant Bach Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru / Fight for Sight
Mae Fight for Sight yn gweithio mewn partneriaeth ag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i ariannu'r ymchwil glinigol ac anghlinigol o'r ansawdd uchaf i rwystro ac atal colli golwg.
Cynigir y dyfarniad grant bach hwn ar gyfer ymchwil sy'n bodloni'r trothwy polisi ac ansawdd ar gyfer ymchwil glinigol neu anghlinigol, yn canolbwyntio ar ddealltwriaeth, atal, diagnosis neu driniaeth o gyflyrau golwg a gwasanaethau offthalmoleg / optometreg.
Bwriad y wobr yw cefnogi ymchwil gyrfa gynnar gyda chyllid cystadleuol o hyd at £15,000 i wyddonwyr clinigol neu ymchwil i gynnal prosiectau ymchwil annibynnol am hyd at 12 mis.
Rhaid cynnal yr ymchwil mewn sefydliad academaidd neu feddygol yng Nghymru.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 13:00 ar 13 Medi 2023
Am fwy o fanylion ewch i wefan Fight for Sight sy’n cynnwys canllawiau manwl, a mynediad i'r system rheoli grantiau ar-lein. Ar gyfer unrhyw ymholiadau yn ystod y broses, e-bostiwch y tîm.