Galwad ar gyfer offer Cyflenwi Ymchwil Masnachol Cymru VPAG
Mae hon yn alwad Cynllun Gwirfoddol ar gyfer Prisio, Mynediad a Thwf Meddyginiaethau wedi'u Brandio (sef VPAG).
Pwrpas:
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn agor galwad ar sefydliadau'r GIG gyflwyno cais am offer sydd ei angen i gefnogi'r gwaith o ddarparu ymchwil fferyllol fasnachol, lle bydd y gost yn cael ei dynnu o fewn 2025/26.
Proses ymgeisio:
Cwblhewch y profforma (.docx), gan ddarparu disgrifiad o'r offer sydd ei angen, cost eitem unigol a chyfiawnhad dros yr eitemau/adnewyddu y gofynnwyd amdanynt yn y cynnig. Dylai hyn gynnwys sut y bydd y cyllid yn gwella'ch seilwaith ymchwil glinigol masnachol ac yn cefnogi mwy o allu i ddarparu ymchwil glinigol fasnachol.
Gellir grwpio ceisiadau lluosog am yr un eitem gyda'i gilydd ar un rhes (e.e. os hoffech ofyn am bedair o'r un eitemau, gellir grwpio'r rhain gyda'i gilydd gyda'r gost fesul eitem a bennwyd).
Bydd galwadau yn cael eu hadolygu gan dîm cyflenwi ymchwil cenedlaethol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru sy'n cael eu hysbysu gan Arweinwyr Canolfannau Cyflenwi Ymchwil Fasnachol, Arweinwyr Arbenigol, arweinyddiaeth seilwaith ymchwil arall, cymheiriaid yn y diwydiant fel y bo'n briodol/pan fo angen. Bydd canlyniadau cyllid yn cael eu hadrodd i fwrdd Canolfan Cyflenwi Ymchwil Fasnachol Cymru.
Pan fo ceisiadau am gyllid yn ymwneud â phrosiectau cenedlaethol neu strategol, bydd Bwrdd Canolfan Cyflenwi Ymchwil Fasnachol Cymru yn nodi ac yn cytuno ar brosesau priodol ar gyfer adolygu gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, adolygiad panel mewnol ac allanol, er mwyn pennu canlyniadau.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau:
Mae hon yn alwad ariannu treigl, a bydd penderfyniad yn cael ei wneud o fewn pedair wythnos i gyflwyno cais.
Rhaid cyflwyno ceisiadau i research-fundingsupport@wales.nhs.uk gan ddefnyddio'r profforma (.docx).