Gwobr Partneriaeth Cymdeithas Strôc/Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Mae'r Gymdeithas Strôc yn partneru ag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i ariannu ymchwil hanfodol i wella bywydau pobl y mae strôc yn effeithio arnynt ledled y DU.
Mae'r alwad am gyllid yn chwilio am brosiectau amlddisgyblaethol sy'n mynd i'r afael â blaenoriaethau mewn ymchwil strôc fel y nodir yn y Bartneriaeth Gosod Blaenoriaeth gyda Chynghrair James Lind. Mae pob cais o Gymru yn cael eu hannog a byddant yn cael eu hasesu ar sail eu rhinweddau eu hunain.
Nôd y wobr yw ariannu o leiaf un cais am brosiect grant o Gymru ar gyfer ymchwil sydd â llwybr clir i gael effaith a chanolbwyntio ar fuddion i bobl y mae strôc yn effeithio arnynt am hyd at dair blynedd..
Bydd ceisiadau prosiect grant yn cael eu beirniadu mewn dau gam.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Cam 1: nawr ar agor ar gyfer ceisiadau tan 21 Awst 2023
Cam 2: 8 Rhagfyr 2023
Darganfyddwch fwy o wybodaeth am gylch gwaith, cymhwysedd a sut i wneud cais ar wefan grant y prosiect, neu e-bostiwch y tîm.