Rhaglen Cyfuno Tystiolaeth NIHR

Mae'r rhaglen gyllido hon ar agor o'r newydd i ymchwilwyr yng Nghymru

Mae'r Rhaglen Cyfuno Tystiolaeth yn ariannu prosiectau ymchwil sy'n nodi, gwerthuso a chyfuno data o astudiaethau ymchwil presennol i ddarparu'r dystiolaeth orau, gan gynnwys ar effeithiolrwydd a chost-effeithiolrwydd triniaethau, profion ac ymyriadau eraill, i gefnogi'r broses o wneud penderfyniadau ar draws iechyd, iechyd y cyhoedd a gofal cymdeithasol ym mhob un o bedair gwlad y DU.

Mae'r Rhaglen Cyfuno Tystiolaeth yn cael ei hariannu gan yr NIHR, gyda chyfraniadau gan Swyddfa’r Prif Wyddonydd yn yr Alban, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ac Adran Ymchwil a Datblygu Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Asiantaeth Iechyd Cyhoeddus Gogledd Iwerddon.

Bydd y rhaglen yn cyfuno data o sawl ffynhonnell, gan amlaf o astudiaethau ymchwil presennol, i ddarparu crynodeb cyffredinol o'r wybodaeth gyfredol.

Dylai cyfuno tystiolaeth fod yn seiliedig ar brosesau systematig i nodi a choladu tystiolaeth berthnasol sy'n bodloni meini prawf cymhwysedd a nodwyd ymlaen llaw ac i leihau dylanwad tuedd. Gall cyfuno canlyniadau astudiaethau unigol ac ystyried gwahaniaethau leihau ansicrwydd a helpu i wneud synnwyr o ganfyddiadau astudiaethau sy'n gwrth-ddweud ei gilydd.

Pa bynnag fath o gyfuno tystiolaeth sy'n cael ei wneud, rhaid defnyddio dulliau priodol, trylwyr a thryloyw fel y gellir ymddiried yn y casgliadau.

Cefnogir cyfuno tystiolaeth trwy ddwy ffrwd ariannu:

  • Mae timau Adolygu Asesu Technoleg yn cael eu hariannu i ddarparu ymchwil annibynnol i NICE i lywio eu pwyllgorau canllawiau
  • Ariennir Grwpiau Cyfuno Tystiolaeth i  fynd i'r afael â bylchau gwybodaeth neu i ateb angen penodol am randdeiliaid/cynulleidfaoedd gofal iechyd, iechyd cyhoeddus a gofal cymdeithasol y Rhaglen

Mae mwy o wybodaeth a sut i wneud cais ar wefan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal.