Rhaglen Dyfeisio ar gyfer Arloesi (i4i) NIHR

Mae'r rhaglen gyllido hon ar agor o'r newydd i ymchwilwyr yng Nghymru

Mae'r Rhaglen Dyfeisio ar gyfer Arloesi (i4i) yr NIHR yn gynllun ariannu ymchwil drosi ar gyfer dyfeisiau meddygol, dyfeisiau diagnostig y tu allan i’r corff dynol a thechnolegau iechyd digidol sy'n mynd i'r afael ag angen iechyd neu ofal cymdeithasol presennol neu sy'n dod i'r amlwg. Mae datblygiadau arloesol sydd wedi dangos prawf o gysyniad ac sydd â llwybr clir tuag at fabwysiadu a masnacheiddio yn cael eu hariannu trwy i4i.

Mae'r Rhaglen Dyfeisio ar gyfer Arloesi (i4i) yn cael ei hariannu gan yr NIHR gyda chyfraniadau penodol gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Swyddfa’r Prif Wyddonydd yn yr Alban, ac Adran Ymchwil a Datblygu Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Asiantaeth Iechyd Cyhoeddus Gogledd Iwerddon.

Mae tair ffrwd ariannu i'r rhaglen i4i:

Mae Dyfarniadau Datblygu Cynnyrch a Her yn cael eu cynnal ddwywaith y flwyddyn ac mae Cyswllt yn cael ei gynnal unwaith y flwyddyn.

Mae i4i FAST (Funding At the Speed of Translation) yn gynllun ariannu wedi'i anelu at arloeswyr sydd angen ychydig bach o gyllid i ateb cwestiwn penodol neu i ariannu un darn o weithgarwch.

Mae mwy o wybodaeth a sut i wneud cais ar  wefan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal.