Rhaglen Grantiau NIHR ar gyfer Ymchwil Gymhwysol (PGfAR)
Mae'r rhaglen gyllido hon ar agor o'r newydd i ymchwilwyr yng Nghymru
Nod PGfAR yr NIHR yw cyflwyno canfyddiadau ymchwil a fydd yn arwain at fuddion clir ac adnabyddadwy i gleifion, defnyddwyr gwasanaeth neu ofalwyr, fel arfer trwy hybu iechyd a lles, atal afiechyd, a rheoli clefydau yn y modd gorau posibl (gan gynnwys diogelwch ac ansawdd).
Ariennir y Rhaglen PGfAR gan yr NIHR gyda chyfraniadau penodol gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Swyddfa’r Prif Wyddonydd yn yr Alban, ac Adran Ymchwil a Datblygu Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Asiantaeth Iechyd Cyhoeddus Gogledd Iwerddon.
Mae PGfAR yn cael ei harwain gan ymchwilwyr ac nid yw'n comisiynu ymchwil ar bynciau penodol. Fodd bynnag, rhaid i gynigion ymchwil fod mewn maes blaenoriaeth neu angen i'r GIG, iechyd y cyhoedd neu'r sector gofal cymdeithasol, gyda phwyslais arbennig ar feysydd iechyd a gofal cymdeithasol sy'n achosi baich sylweddol lle nad yw cyllidwyr ymchwil eraill efallai‘n canolbwyntio arno, neu lle nad oes digon o gyllid ar gael.
Mae'r dyfarniadau'n ariannu'r GIG, ymarferwyr iechyd cyhoeddus a gofal cymdeithasol i gydweithio â phartneriaid academaidd i fynd i'r afael â phroblemau iechyd a gofal cymdeithasol a darparu rhywfaint o sefydlogrwydd cyllid i gefnogi datblygiad hirdymor grwpiau ymchwil cymhwysol o'r ansawdd uchaf.
Mae mwy o wybodaeth a sut i wneud cais ar wefan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal.