Rhaglen Ymchwil NIHR ar gyfer Gofal Cymdeithasol
Mae'r rhaglen gyllido hon ar agor o'r newydd i ymchwilwyr yng Nghymru
Nod y Rhaglen Ymchwil ar gyfer Gofal Cymdeithasol (RPSC) yw ariannu ymchwil sy'n cynhyrchu tystiolaeth i gynyddu effeithiolrwydd gwasanaethau gofal cymdeithasol, sy'n rhoi gwerth am arian ac sydd o fudd i bobl sydd angen neu sy'n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol, a gofalwyr. Bydd ymchwil yn cynnwys gofal cymdeithasol oedolion a phlant.
Mae'r Rhaglen RPSC yn cael ei hariannu gan yr NIHR gyda chyfraniadau penodol gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Swyddfa’r Prif Wyddonydd yn yr Alban, ac Adran Ymchwil a Datblygu Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Asiantaeth Iechyd Cyhoeddus Gogledd Iwerddon.
Mae'r rhaglen yn annog ceisiadau gan ymchwilwyr ar bob cam o'u gyrfaoedd ac mae'n cynnwys is-ffrwd ar gyfer ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa yn ogystal â chyllid ar gyfer adeiladu capasiti. Dylai cynigion ddangos arbenigedd ymchwil priodol, a dylai fod gan dimau hanes o ymchwil gyhoeddedig berthnasol.
Mae RPSC yn gwahodd ceisiadau gan sefydliadau addysg uwch, elusennau, awdurdodau lleol, llywodraethau lleol a sefydliadau trydydd sector perthnasol ym mhob un o bedair gwlad y DU.
Mae mwy o wybodaeth a sut i wneud cais ar wefan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal.